A04462:136
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Danghosant hwytheu, yr henafiaeth honno o ‘r eiddynt, unwaith in ei hoes. Moesont gael gweled in amlwg y petheu y maen-nhwy‘n gwneuthyr cymaint rhodres in eu cylch, pa fodd y cowsont gynnydd gyhyd a chin helaethed. Adroddant pa fodd y darfu i‘r holl genedloedd Cristnogaidd gyttuno drwy fodlondeb i‘r crefydd hwn or eiddyn-nhwy. Eithr in hyttrach, fall y mynegasom-mi o‘r blaen, cilio y maent oddi wrth eu rheithieu ei hun: ag e ddarfu iddynt dory drach-gefn, a di-ddimio mewn byr amser, yr un rhyw betheu ag a ordeiniasent hwy o fewn ychydig flynyddoedd o‘r blaen i barhau bight.
Danghosant hwytheu, yr henafiaeth honno o ‘r eiddynt, vnwaith yn ei hoes. Moesont gael gweled yn amlwg y petheu y maen-nhwy‘n gwneuthyr cymaint rhodres yn eu cylch, pa fodd y cowsont gynnydd gyhyd a chyn helaethed. Adroddant pa fodd y darfu i‘r holl genedloedd Cristnogaidd gyttuno drwy fodlondeb i‘r crefydd hwn or eiddyn-nhwy. Eithr yn hyttrach, fal y mynegasom-mi o‘r blaen, cilio y maent oddi wrth eu rheithieu ei hun: ag e ddarfu iddynt dorri drach-gefn, a di-ddimio mewn byr amser, yr vn rhyw betheu ag a ordeiniasent hwy o fewn ychydig flynyddoedd o‘r blaen i barhau byth.
Pa ddelw ynte y gellir eu coelio nhwy in llyfreu‘r Tadeu, in yr hen Gynghorau, ag in y Geirieu a ddoedodd Duw ei hun? Nid oes genthynt (O Dduw dayonus) nid oes genthynt, mor petheu y maent in gwneuthyr cymaint rhodres in eu cylch: Nid oes genthynt na henafiaeth, nag ⟨image 73⟩ollawl-feddiannaeth, na chwaith cyttundeb holl wledydd ag amseroedd. Ag er eu bod nhwy in chwennych cymryd arnynt, etto nhwy a wyddant hyn in ddigon hysbys; je ag ni russant hwy weithieu gyfaddef cymaint a hyn in gyhoeddedig. Ag o ran hyn y doedant am reithieu‘r hen Gymanfa-Gynghoreu a‘r hen Dadeu, nad ydynt amgenach, nas gellir eu newid weithie, ag mae rhaid wrth amryw ordinhâd bob amryw amser in yr Eglwys. Dymma i chwi fall y maen-nhwy‘n chware mic ymguddio dan enw‘r Eglwys, ag in twyllo‘r truain-gwerin drwy goeg rithio. A rhyfedd ydyw fod pobl, y nail ai mor ddall na welant hyn, ai ynte mor ddioddef-gar os ydynt in gweled, a gallu onynt cyn llonydded gyd-ddwyn ar cwbl.