A04462:16
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Introduction: Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
a hynny wedi ei dynny allan (y rhan fwyaf) o lyfr y Myneich celwyddog gynt, yr hwn a elwid Legenda aurea, ag a ellir ei alw Traethawd y Celwyddeu. Y mae ‘n fy meddiant i beth o ‘r faith gerdd gymraec iw dangos, ag y mae‘n dostur jawn gan fynghalon i feddwl ddarfod twyllo ag anrheithio lawyer enaid din drwy‘r faith erchyll ynfydrwydd. E ddarfuessid cyfieuthu ‘r Testament newydd ynghylch yr wythfed neu ‘r nowfed flwyddyn o Deyrnas eyn harglwyddes frenhines Elizabeth, and yr oedd cyfled llediaith a chymaint anghyfiaith in yr ymadrodd brintiedig, na all clust gwir Gymro ddioddef clywed mo ‘naw ‘n jawn. In-nhal y Testament hwnnw y gwelais i lythyr duwiol dyscedig at y Cymry, o waith y ⟨image 6⟩gwir barchedig Dâd Richard Escob Meniw iw twyso nhwy i adnewyddiad yr hên ffydd gatholic a goleuni Efengyl Christ: yr hwn lythyr a scrifennodd y doededig Escob mewn Cymraec groyw, hyfedr, ymadroddus, a di-ammeu wneuthyr onaw lês mawr i bob Cymro a ‘i darllennodd. Heblaw hynny mi a welais ddosparth byr ar y rhan gyntaf i Ramadeg cymraec a brintiesid er is-talm,1 yr hwn sydd darn o waith dyscedig ynghelfyddyd gramadec, mor buraidd, mor lathraidd, ag mor odidawg ei ymadroddiad, na ellir damuno dim perffeithiach in hynny o beth. Ni wn i welled etto, na chlywed sôn am ddim amgenach in Gymraeg a nemmawr o addysc yntho.
a hynny wedi ei dynny allan (y rhan fwyaf) o lyfr y Myneich celwyddog gynt, yr hwn a elwid Legenda aurea, ag a ellir ei alw Traethawd y Celwyddeu. Y mae ‘n fy meddiant i beth o ‘r fath gerdd gymraec iw dangos, ag y mae‘n dostur iawn gan fynghalon i feddwl ddarfod twyllo ag anrheithio llawer enaid dyn drwy‘r fath erchyll ynfydrwydd. E ddarfuessid cyfieuthu ‘r Testament newydd ynghylch yr wythfed neu ‘r nowfed flwyddyn o Deyrnas eyn harglwyddes frenhines Elizabeth, ond yr oedd cyfled llediaith a chymaint anghyfiaith yn yr ymadrodd brintiedig, na alle clust gwir Gymro ddioddef clywed mo ‘naw ‘n iawn. Yn-nhal y Testament hwnnw y gwelais i lythyr duwiol dyscedig at y Cymry, o waith y ⟨image 6⟩gwir barchedig Dâd Richard Escob Meniw iw twyso nhwy i adnewyddiad yr hên ffydd gatholic a goleuni Efengyl Crist: yr hwn lythyr a scrifennodd y doededig Escob mewn Cymraec groyw, hyfedr, ymadroddus, a di-ammeu wneuthyr onaw lês mawr i bob Cymro a ‘i darllēnodd. Heblaw hynny mi a welais ddosparth byr ar y rhan gyntaf i Ramadeg cymraec a brintiesid er ys-talm,