A04462:175
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In y Gymanfa-Gyngor yngh Calçedonia, Pennadur o wr llyg, a farnodd a‘i enau ei hun in Hereticiaid yr Escobion Dioscorus, Ivvenalis, a Thalasius; ag a wnaeth ordinhad iw bwrw nhwy allan o ‘u grad in yr Eglwys.1 In y drydedd Gymanfa-Gyngor yngh Constantinopl yr ⟨p. 87⟩eisteiddodd Constantinus, yr hwn ydoedd Bennadur llyg, ymhlith yr Escobion; ag heblaw hynny, ef a srifennodd ei henw gyda nhwy. Canys (heb‘r ef) e ddarfu i ni ddarllen, a scrifenny eyn henweu. In yr ail Gymanfa-Gyngor a elwir Arausicanum, y gwyr anrhydeddus yr rhai oeddynt Gennadeu yno oddiwrth Dwysogion, a wnaethant bob un or ddau, self adrodd eu meddwl ynghylch pynciau crefydd, a hefyd scrifenny eu henweu gyda‘r Escobion. Herwydd dymma fall mae ‘n scrifennedig in-niwedd y Gymanfa-Gyngor honno: Y gwyr ardderchoccaf Petrus, Marçellinus, Felix, a Liberius, anrhydeddus Rag-bennaethiaid Ffrainc o brif waedogaeth y Deyrnas, gan gyd-synnio a scrifennasant eu henweu. A hefyd, y gwyr enwoccaf Syagrus, Opilio, Pantagathus, Deodatus, Cariatho, a Marçellus a scrifennasant eu henweu nhwythau.
Yn y Gymanfa-Gyngor yngh Calçedonia, Pennadur o wr llyg, a farnodd a‘i enau ei hun yn Hereticiaid yr Escobion Dioscorus, Iuuenalis, a Thalasius; ag a wnaeth ordinhad iw bwrw nhwy allan o ‘u gradd yn yr Eglwys.1 Yn y drydedd Gymanfa-Gyngor yngh Constantinopl yr ⟨p. 87⟩eisteiddodd Constantinus, yr hwn ydoedd Bennadur llyg, ymhlith yr Escobion; ag heblaw hynny, ef a srifennodd ei henw gyda nhwy. Canys (heb‘r ef) e ddarfu i ni ddarllen, a scrifenny eyn henweu. Yn yr ail Gymanfa-Gyngor a elwir Arausicanum, y gwyr anrhydeddus yr rhai oeddynt Gennadeu yno oddiwrth Dwysogion, a wnaethant bob vn or ddau, sef adrodd eu meddwl ynghylch pynciau crefydd, a hefyd scrifenny eu henweu gyda‘r Escobion. Herwydd dymma fal mae ‘n scrifennedig yn-niwedd y Gymanfa-Gyngor honno: Y gwyr ardderchoccaf Petrus, Marçellinus, Felix, a Liberius, anrhydeddus Rag-bennaethiaid Ffrainc o brif waedogaeth y Deyrnas, gan gyd-synnio a scrifennasant eu henweu. A hefyd, y gwyr enwoccaf Syagrus, Opilio, Pantagathus, Deodatus, Cariatho, a Marçellus a scrifennasant eu henweu nhwythau.