A04462:201
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A chan hynny o mine y Pâb i ni gymmod ag ef, ei ran ef yw ceisio gan Dduw gymmodi ag efo ‘i hun in gyntaf. Dechre twf Sçismau, (medd Cyprianus,) ydyw eisieu mined dynion at y pen, a dychwelyd at ffynnon y Scrythurau glan, ag eisieu cadw gossodigaetheu a gorchmynion yr Athro ⟨p. 106⟩Nefawl. Canys eisieu gwneuthyr hyn sydd Ryfel, ag nid Heddwch (medd ef). Ag nid cyssylltedig a ‘r Eglwys mor neb sydd wahanedig oddi wrth yr Efengyl. And am y gwyr hyn eu harfer nhwy yw gwneuthyr marchnad a marsiandiaeth o henw Heddwch. Herwydd nid amgen no Thangneddyf bolieu segyrllyd yw ‘r heddwch hwnnw y maen-nhwy ‘n ei geisio mor chwannog. Hawdd fydde gwneuthyr cymmod a chlyfaredd rhyngthynt hwy a nine, oni bae fod chwant goruchafiaeth, a glothineb, ag anllywodraeth in ei rwystro.
A chan hynny o myn y Pâb i ni gymmod ag ef, ei ran ef yw ceisio gan Dduw gymmodi ag efo ‘i hun yn gyntaf. Dechre twf Sçismau, (medd Cyprianus,) ydyw eisieu myned dynion at y pen, a dychwelyd at ffynnon y Scrythurau glan, ag eisieu cadw gossodigaetheu a gorchmynion yr Athro ⟨p. 106⟩Nefawl. Canys eisieu gwneuthyr hyn sydd Ryfel, ag nid Heddwch (medd ef). Ag nid cyssylltedig a ‘r Eglwys mor neb sydd wahanedig oddi wrth yr Efengyl. Ond am y gwyr hyn eu harfer nhwy yw gwneuthyr marchnad a marsiandiaeth o henw Heddwch. Herwydd nid amgen no Thangneddyf bolieu segyrllyd yw ‘r heddwch hwnnw y maen-nhwy ‘n ei geisio mor chwannog. Hawdd fydde gwneuthyr cymmod a chlyfaredd rhyngthynt hwy a ninne, oni bae fod chwant goruchafiaeth, a glothineb, ag anllywodraeth yn ei rwystro.
Llymma i chwi pam y mae ‘r tuchan, eu bryd nhwy sydd ar eu bolieu. Eu holl nad a ‘u trin ydyw am gadw drwy gywilydd a gwarth, a enillassant hwy drwy wradwydd. Achwyn arnom-mi ‘r pride hyn y mae Pardynnwyr y Pâb, a ‘i Roddwyr, Ardrethwyr, llattaion, ag eraill yr rhai sy ‘n tybied may elw bydol yw duwioldeb; heb wasnaethu Christ, eithr eu bolieu eu hun. Gynt gyntoedd y bu elw annianol i ‘r faith ddynion a ‘r rhain; a thybied y maent eu bod nhwy ‘n colli, beth bynnag y mae Christ in ei ennill. Am hynny mae ‘r Pâb in cwyno ddarfod i gariad perffaith oeri, a fferru; er mwyn nad ydis in talu ardreth iddo ef cyn helaethed ag yr oeddid