A04462:24
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Canys er pan oes cof am ddim, braid i medrwn gael un amser, nag wrth gynnydd cyntaf y ffydd, nag in ei gwastadfod, na chwaith ym-mhryd ei had-gyfodiad, in yr hyn ni wnawd llwyr-gam trahaus a‘r Gwir, ag a Gwiriownder. Herwydd diau fod Diawl in gweled nad di-ogel iddo ef, ag na ddichyn gadw‘r eiddo, tree fo‘r Gwir mewn di-ogelwch.
Canys er pan oes cof am ddim, braidd i medrwn gael vn amser, nag wrth gynnydd cyntaf y ffydd, nag yn ei gwastadfod, na chwaith ym-mhryd ei had-gyfodiad, yn yr hyn ni wnawd llwyr-gam trahaus a‘r Gwir, ag a Gwiriownder. Herwydd diau fod Diawl yn gweled nad di-ogel iddo ef, ag na ddichyn gadw‘r eiddo, tre fo‘r Gwir mewn di-ogelwch.
Am hynny pe rhoem na chrybwyllem am yr hen Batrieirch a‘r Prophwydi, y rhai ni threiglassant un darn oi heinioes in ⟨p. 2⟩rhydd oddi wrth gam-ogan a dychan: Nyni a wyddom ddarfod i ray in yr amseroedd gynt, ddoedyd a phregethu in gyffredinawl, fod yr hen Iddewon, 1(y rhai nid amheuwn nad oeddynt addolwyr yr unig ar gwir Dduw) in addoli y nail ai Hwch, 2ai Assyn in lle Duw, ag nad ydoedd ei holl grefydd nhwy ddim amgen onid erchyllddirmyg a di-ystyrwch ar bob Duwiolaeth. Ni a wyddom pan oedd mab Duw a‘n Prynwr Jesus Grist in dyscu‘r Gwir i ddynion,3 gael o honaw ef ei gymeryd in Hudol, in gyfareddwr, in Samaritan, in Beelzebub, in Dwyllwr y bobl, in feddwyn, ag in fwyttawr.
Am hynny pe rhoem na chrybwyllem am yr hen Batrieirch a‘r Prophwydi, y rhai ni threiglassant vn darn oi heinioes yn ⟨p. 2⟩rhydd oddi wrth gam-ogan a dychan: Nyni a wyddom ddarfod i rai yn yr amseroedd gynt, ddoedyd a phregethu yn gyffredinawl, fod yr hen Iddewon,