A04462:57
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Derbyn a chofleidio‘r ydym yr holl Scrythurau cyssegr-lan, o‘r hen a‘r newydd Destament; gan gwbl ddiolch i‘n gwir Dduw a drefnodd i ni hyn o olevad yw gael in oestadol garbron eyn llygaid: rhag ofn i ddichellion din, neu fagleu Diawl eyn dal, a‘n dwyn ymmaeth i gelwyddeu a chyfeiliorni. Y Scrythurau hyn meddwn-ni ydynt leissieu a llefaredd nefawl, drwy‘r rhai y darfu i Dduw hyspussu i ni ei ewyllys ef: in y rhai in unig y dichyn calon din gwbl orphwys; fod wedi cynnwys in y rheini in aml-gyflawn, ag in ddigonol, bob peth rheidiol i‘n hiechydwriaeth ni, fall y darfu i Origenes, Awstin, Chrysostom, ag i Cyryllus draethu: May‘r heini ydynt rim, a nerth Duw i gael Jechydwriaeth: May‘rheini ydynt wadnau a seiliau‘r prophwydi a‘r Apostoliō, ar y rhai yr adeiladwyd Eglwys Dduw: May hwynt hwy ydynt gwbl Iniownder drwy‘r hyn y gellir gweled a gwybod a ydyw‘r Eglwys in gogwyddo mewn anryfyssedd, ai nid yw: ⟨image 27⟩ag at y rhai y dyleid alw holl athrawiaeth yr Eglwys i wneuthyr cyfri. Ag in bendifadde na ddylid gwrando ar gyfraith, na threfn, na deddfod in y bid, in erbyn y Scrythurau glan; pe rhoem a dyfod S. Pawl ei hun, neu angel or nefoedd, i ddyscu dynion in amgenach i hyn.
Derbyn a chofleidio‘r ydym yr holl Scrythurau cyssegr-lan, o‘r hen a‘r newydd Destament; gan gwbl ddiolch i‘n gwir Dduw a drefnodd i ni hyn o oleuad yw gael yn oestadol garbron eyn llygaid: rhag ofn i ddichellion dyn, neu fagleu Diawl eyn dal, a‘n dwyn ymmaeth i gelwyddeu a chyfeiliorni. Y Scrythurau hyn meddwn-ni ydynt leissieu a llefaredd nefawl, drwy‘r rhai y darfu i Dduw hyspussu i ni ei ewyllys ef: yn y rhai yn vnig y dichyn calon dyn gwbl orphwys; fod wedi cynnwys yn y rheini yn aml-gyflawn, ag yn ddigonol, bob peth rheidiol i‘n hiechydwriaeth ni, fal y darfu i Origenes, Awstin, Chrisostom, ag i Cyryllus draethu: May‘r heini ydynt rym, a nerth Duw i gael Iechydwriaeth: May‘rheini ydynt wadnau a seiliau‘r prophwydi a‘r Apostoliō, ar y rhai yr adeiladwyd Eglwys Dduw: May hwynt hwy ydynt gwbl Iniownder drwy‘r hyn y gellir gweled a gwybod a ydyw‘r Eglwys yn gogwyddo mewn āryfyssedd, ai nid yw: ⟨image 27⟩ag at y rhai y dyleid alw holl athrawiaeth yr Eglwys i wneuthyr cyfri. Ag yn bendifadde na ddylid gwrando ar gyfraith, na threfn, na deddfod yn y byd, yn erbyn y Scrythurau glan; pe rhoem a dyfod S. Pawl ei hun, neu angel or nefoedd, i ddyscu dynion yn amgenach i hyn.