A04462:7
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I‘R GWIR URDD ASSOL A‘M CAR ANWYL, William Meredydd.
I‘R GVVIR VRDD ASSOL A‘M CAR ANVVYL, VViliam Meredydd.
MI a welaf may peth arferedig in yr hên oesoedd gynt ymhlith y Groegwyr a‘r Lladinwyr penna‘i disc a‘u cymeriad, ydoedd gwneuthyr anrhegion o‘u gorchwilion dyscedig i‘r sawl oedd nessaf iddynt, a hoffaf genthynt: fall y gallent, drwy‘r cyfryw fodd, adel hyspysrwydd i‘r oesoedd a deal ar eu hôl nhwy, am rinwedd a rhyglyddiad y gwyr hynny rhagor eraill. Nid anghymmwys i mine ddilyn yr un llwybr wrth ossod allan cyfieythiad hyn o addysc, yr hwn yr wyf in ei orchymyn i‘ch nodded. Oblegid, fegis nad oes neb byw fwy ei search a‘i ewyllys ar wneuthyr mowr-less i‘ch gwlad na chwi‘n unig; felly nid oes neb dayarol a haedde gael hyn gennyf, o‘ch blaen chwi‘ch hunan. Ag er mwyn nad amheuthyn gennych ddim a aller ei fyfyrio a‘i anrhegu ⟨image 3⟩i chwi in Saesonaeg, neu‘n Lladin; (in yr hyn jeithoedd y buoch er joed gynefin a phob rhyw disc ag athrawiaeth) hefyd, gan i ni‘n dau ddwyn eyn bid allan o Gymry, a bôd mor anghynefin i mi scrifenny, ag yw i chwithe ddarllen dim in yr jaith Gymraeg; hynny a wnaeth i mi, ydwyf wir gymro a gwir gâr o ‘r eyddoch, ddewis eych annerch a‘ch anrhegu in Gymraeg, chwaethach nog mewn un jaith arall. Pa gymro bynnag a gaffo wellaad disc, neu gynyddiad gwybodaeth, oddi wrth y llyfr hwn, diolched i Dduw in gyntaf, ag i chwithe in ail. Ef a ddengys hwn y llwybr i ‘r anghyfarwydd. A chyda hyn, pettid in pregethu Efengyl Christ ing Hymry, fall y gwelsoch chwi a mine mewn gwledydd eraill, diau nad oes Genedlaeth ing Hred a all ragori ar y Cymry mewn Crefydd a Duwioldeb; gan eu bod nhwy o athrylith a naturiaeth in chwā nog i ddyscu pob Rhinwedd a Dayoni, and cael ei ddangos a ‘i ddeongl iddynt.