A04462:77
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Etto er hynny (fall y doedassom o‘r blaen) nid yw‘r cnwd hwnnw in egino gyda ninny, y sawl ydym in dyscu‘r Efengyl i‘r bobl in llwybraidd, ag in gyffredinol. Ymhlith eyn gwrthwynebwyr ni, mewn dallineb a thywyllwch, may‘r gwenwynig betheu hyn in codi, ag in cael cynnydd a nerth, lle‘r ydis drwy greulondeb in gorthrechu‘r ⟨image 37⟩Gwirionedd fegis na cheir clywed mo hono, oddieithr mewn cilfacheu, a dirgel ymgyfarfodiadeu. Treiont in hydda: canhiattaont y ford in rhydd i‘r Efengyl: Tywynned Gwirionedd Jesus Grist, ag estynned ei belydyr disglair i bob man; nhwy a gant welled in y fan, mod y difanna‘r cyscodeu uchod wrth lewyrch yr Efengyl, yr un agwedd, a thywyllwch y nos wrth ddiscleiriad yr haul. Canys, in y cyfamser, tree fo‘r gwyr hyn in eistedd, a‘u bryd ar beth arall, rhwystro a gwrth-lad beunydd rim-mi‘r holl Heresieu doededig, yr rhai maen-nhwy‘n cam-haeru arnom eu magu a‘u mowrhau.
Etto er hynny (fal y doedassom o‘r blaen) nid yw‘r cnwd hwnnw yn egino gyda nyni, y sawl ydym yn dyscu‘r Efengyl i‘r bobl yn llwybraidd, ag yn gyffredinol. Ymhlith eyn gwrthwynebwyr ni, mewn dallineb a thywyllwch, may‘r gwenwynig betheu hyn yn codi, ag yn cael cynnydd a nerth, lle‘r ydis drwy greulondeb yn gorthrechu‘r ⟨image 37⟩Gwirionedd fegis na cheir clywed mo hono, oddieithr mewn cilfacheu, a dirgel ymgyfarfodiadeu. Treiont yn hydda: canhiattaont y ffordd yn rhydd i‘r Efengyl: Tywynned Gwirionedd Iesu Grist, ag estynned ei belydyr disglair i bob man; nhwy a gant weled yn y fan, modd y difanna‘r cyscodeu vchod wrth lewyrch yr Efengyl, yr vn agwedd, a thywyllwch y nos wrth ddiscleiriad yr haul. Canys, yn y cyfamser, tre fo‘r gwyr hyn yn eistedd, a‘u bryd ar beth arall, rhwystro a gwrth-ladd beunydd rym-mi‘r holl Heresieu doededig, yr rhai maen-nhwy‘n cam-haeru arnom eu magu a‘u mowrhau.
Lle maent hwy‘n doedyd eyn bod ni wedi eyn gwahan in Sectae, a bod rhai onom in mynny‘n galw‘n Lutheranaid, ag eraill in Zwingliaid; ag na fedrassom-mi etto gyttuno in eyn mysg eyn hunein ynghylch sylwedd athrawiaeth y ffydd: beth a ddoedassent hwy pe y buasent in amseroedd cynta‘r Apostolion a‘r Tadeu fanctaidd? pan ddoede un, ar du Paul rydwyf fi, ar du Cephas medde‘r llall rydwyf innef, a minnef medd‘r trydydd, in dal gyda‘g Apollo: pan oedd Pawl in ceruddy Pedr: pan ar sorriant yr ymadawodd Barnabas a Phawl: pan oedd y Cristnogion