A04462:9
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Introduction: Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl.
DYMMA i ti ar less d'enaid, in hyn o lyfr, sylwedd a chrynodeb y Ffydd wir Gatholic; ith hyfforddi a ‘th berffeithio in llwybr gwasanaeth Duw, ag Jechydwriaeth din. Wrth ddarllen hwn y cei di wybod hanes, a dealld gwirionedd y Grefydd Gristnogawl, a chyda hynny ddanghossiad a dat-guddiad amhuredd crediniaeth Pâb Rhufain. Rhoed y Goruchaf Dduw iti ochel y drwg, a chalyn y da.
DYMMA i ti ar les d'enaid, yn hyn o lyfr, sylwedd a chrynodeb y Ffydd wir Gatholic; ith hyfforddi a ‘th berffeithio yn llwybr gwasanaeth Duw, ag Iechydwriaeth dyn. Wrth ddarllen hwn y cei di wybod hanes, a dealld gwirionedd y Grefydd Gristnogawl, a chyda hynny ddanghossiad a dat-guddiad amhuredd crediniaeth Pâb Rhufain. Rhoed y Goruchaf Dduw iti ochel y drwg, a chalyn y da.
Mi a dybiais in oref adel heibio ‘r hen eiriau cymreig yr rhai ydynt wedi *tyfu allan o gydnabod a chyd-arfer y cyffredin, ag a ddewisais y geiriau howssaf, rhwyddaf, a sathredicca‘g allwn, i wneuthyr ford yr ymadrodd in rhydd ag in ddirwystrus i ‘r sawl ni wyddant and y gymraeg arferedig. Eithr am ryw air angenrheidiol,2 yr hwn ni ellid dangos mo sylwedd ei rim, na synnwyr ei arwyddoccâd in gymraeg, e ddarfu i mi in-ôl arfer yr jaith Saesonaeg, Ffrangaeg, jaith Itali, jaith Spaen, a bagad o jeithoedd eraill, gymryd y cyfryw air o ‘r Groeg, neu o ‘r Lladin,