A20213:1031
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Adnewydda ynof beunydd fwyfwy, ddelw dy fâb Christ. Pâr i mi ymddigrifo in darllain a myfyrio dy air. Pâr i mi lawenychu in y weinidogaeth gyffredin o honaw. Pâr i mi garu, a pherchi hôll ffyddlon wenidogion yr Efyngyl. Sancteiddia eu athrawiaeth hwynt i'm cydwybod Selia hwynt in fy enaid, ac Scrifenna hwynt in fynghalon, dyro i mi gallon rywiogaidd a thoddedig, i grynu wrth dy air di, ac i hoffi bôb amser bregethau duwiol.
Adnewydda ynof beunydd fwyfwy, ddelw dy fâb Crist. Pâr i mi ymddigrifo yn darllain a myfyrio dy air. Pâr i mi lawenychu yn y weinidogaeth gyffredin o honaw. Pâr i mi garu, a pherchi hôll ffyddlon wenidogion yr Efyngyl. Sancteiddia eu athrawiaeth hwynt i'm cydwybod Selia hwynt yn fy enaid, ac Scrifenna hwynt yn fynghalon, dyro i mi galon rywiogaidd a thoddedig, i grynu wrth dy air di, ac i hoffi bôb amser bregethau duwiol.
Na chaffed fy mhechodau attal dy drugareddau oddi wrthif, nam anheilyngdod gau allan lwybr dy râs. Agor fy llygaid i welled pethau rhyfedd in dy gyfraith di.
Na chaffed fy mhechodau attal dy drugareddau oddi wrthif, nam anheilyngdod gau allan lwybr dy râs. Agor fy llygaid i weled pethau rhyfedd yn dy gyfraith di.
Dadcuddia i mi dy ddirgeloedd, a bid caredig i mi dy wâs anheilwng.
Dadcuddia i mi dy ddirgeloedd, a bydd caredig i mi dy wâs anheilwng.