A20213:570
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Gan hynny, megis hid in hyn y bu gweddiau y cyfiawn in gyfryngau godidog i rwystro atom, ac i droi heibio oddiwrthym ddigofaint Duw, je ac i'n cynnal mewn cyrameriad gyd a Duw: felly dangoswch, adolwyn, pa ford gymmwysaf a gymmerir, a pha beth mewn jawn synnwyr awneir, in gystal i ochelyd peryglon cyffelybus i ddigwyddo, ac i gynnal ffafor, a thrugaredd Dduw i barhau rhag law tu ag atom.
Phila. Gan hynny, megis hyd yn hyn y bu gweddiau y cyfiawn yn gyfryngau godidog i rwystro attom, ac i droi heibio oddiwrthym ddigofaint Duw, ie ac i'n cynnal mewn cyrameriad gyd a Duw: felly dangoswch, adolwyn, pa ffordd gymmwysaf a gymmerir, a pha beth mewn iawn synnwyr awneir, yn gystal i ochelyd peryglon cyffelybus i ddigwyddo, ac i gynnal ffafor, a thrugaredd Dduw i barhau rhag llaw tu ag attom.
Theol. Y ford ddehevaf, a diogelaf a ⟨p. 262⟩fedrafi ei dirnad i hyn, yw edifeirwch o'n calonnau am ein pechodau o'r blaen, a gwellhau ein buchedd o hyn allan: Ceisio yr Arglwydd tray caffer ef, galw arno tra fyddo in agos. Ymwrthod a'n ffyrd ein hunain, ac a'n dychymmygion ein hunain, ac ymchwelyd atto ef a'n holl galonnau, mewn wylofain ympryd, a galar, fell y cynghora y Prophwyd Joel: Canys graslawn, a thrugarog yw ein Duw ni, hwyrfrydig i ddigofaint, ac aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrŵg. Yr holl Brophwydi a'n cynghorant i ganlyn y ford hon, ac a'n dyscant in hyspys, es ninny oll (or mwyaf hid y lleiaf) a ddeuwn at yr Arglwydd ag edifeirwch diledrith gennym: os offrymmwn iddo ef aberth yspryd drylliedig, yna nid rhaid ammeu na chymmoda efe a ni, ac efe a drugarhâ wrth ein camweddau. Dymma'r peth a osodir i lawr in eglur in y seithfed o Jeremi, lle y dywed yr Arglwydd fell hyn wrth ei bobl. Os gan wellhau y gwellewcheich ffyrdd, a'ch gweithredoedd: Os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr ai gymmydog, ac na orthrymmwch y dieithr, yr ymddifad, a'r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion in y fan hon, ac na rodiwch a'r ol duwiau dieithr i'ch niwed eich hûn, yno ⟨p. 263⟩