A20213:609
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Ydyw in wir. Canys oddieithr bod din in siccr o ffafor Duw, a maddevant pechodau, ac in ddilynawl i hynny, o'i jechydwriaeth ei hûn, pa gyssur ⟨p. 280⟩a all fod ganddo mewn dim? Heb law hyn, bod in siccr o gariad Duw tu ag atom, in gwreiddin ein cariad ninnau, a'n ufydd-dod digymmell tu ag atto yntef. Oblegid am hynny yr ydym ni in ei garu ef, ac in ufyddhau iddo, o herwydd ein bod in gwybod iddo ef in caru ni in gyntaf; ac scrifennu ein henwau in llyfr y bywyd. Eithr yngwrthwyneb i hyn, athrawiaeth gwŷr Rhufain in dyscu y dylei ddynion ammeu, ac ofni in oestadol, ag ofn caeth, athrawiaeth gythreulig ydyw, ac anghyssurus: Canys tray dalio dŷn honno, pa galondid a ddichon bod ganddo i wasanaethu Duw? Pa gariad tu ag at ei fawrhydi ef: pa obaith in ei addewidion? Pa gyssur mewn trallod? Ac pa ammynedd mewn adfydwch.
Theol. Ydyw yn wir. Canys oddieithr bod dyn yn siccr o ffafor Duw, a maddeuant pechodau, ac yn ddilynawl i hynny, o'i iechydwriaeth ei hûn, pa gyssur ⟨p. 280⟩a all fod ganddo mewn dim? Heb law hyn, bod yn siccr o gariad Duw tu ag attom, yn gwreiddin ein cariad ninnau, a'n vfydd-dod digymmell tu ag atto yntef. Oblegid am hynny yr ydym ni yn ei garu ef, ac yn vfyddhau iddo, o herwydd ein bod yn gwybod iddo ef yn caru ni yn gyntaf; ac scrifennu ein henwau yn llyfr y bywyd. Eithr yngwrthwyneb i hyn, athrawiaeth gwŷr Rhufain yn dyscu y dylei ddynion ammeu, ac ofni yn oestadol, ag ofn caeth, athrawiaeth gythreulig ydyw, ac anghyssurus: Canys tra y dalio dŷn honno, pa galondid a ddichon bod ganddo i wasanaethu Duw? Pa gariad tu ag at ei fawrhydi ef: pa obaith yn ei addewidion? Pa gyssur mewn trallod? Ac pa ammynedd mewn adfydwch.
Antil. Am y pwngc yma, yr wyfi o'ch meddwl chwi in union: Canys tybied yr wyf y dylei ddŷn fod in gwbl-siccr o'i jechydwriaeth. Ac o'm rhan fy hûn nid wyf in ammeu dim o honaw; and gobeithio yr wyf fod in gadwedig in gystal ar goreu o honynt: Nid oes arnaf mor ofn am hynny. Oblegid ymae gennif y cyfryw ffydd ddiogel in Nuw, a phe na bay and dau ddŷn in y bŷd i fod in gadwedig, gobeithio yr wyf y byddwn i un or ddau hynny.