A20213:795
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Heb law hyn, peth iw ystyried, yw fod rhai wrth gael rhybudd, ac eraill wrth gyffro cydwybod oddi mewn, in ymadael a'u pechodau hid oni ddelont eilwaith ym mhlith eu hên ddrŵg-gymdeithion, ac y cymmeller hwynt drachefn i ddychwelyd iw hên gynnefin ffolineb, megis cî in dythwelyd at ei chwdfa: Oblegid ni â welwn ray o naturiaeth, ac athrylith ragorol, wedi eu hudo in resynol, a'u tynnu megis o drais gyd â chymdeithion drŵg. Megis y mae *cynnyd irion o honynt eu hunain in anhawdd ganddynt losci, eithr o'u gosod a'r dân ynghyd a sych-wydd, hwy â loscant in gystal a hwythau; felly lawyer o ddynion jevaingc cyneddfol, er nad ydynt o honynt eu hunain mor hylithr i ddrygion• â rhai eraill, etto â ddygir ymmaith gyd […] chefnlli, a rhyferthwy chwyrn-ffrwd cyfeillion drŵg i wneuthur annuwioldeb.
Heb law hyn, peth iw ystyried, yw fod rhai wrth gael rhybudd, ac eraill wrth gyffro cydwybod oddi mewn, yn ymadael a'u pechodau hyd oni ddelont eilwaith ym mhlith eu hên ddrŵg-gymdeithion, ac y cymmeller hwynt drachefn i ddychwelyd iw hên gynnefin ffolineb, megis cî yn dythwelyd at ei chwdfa: Oblegid ni â welwn rai o naturiaeth, ac athrylith ragorol, wedi eu hudo yn resynol, a'u tynnu megis o drais gyd â chymdeithion drŵg. Megis y mae *cynnyd irion o honynt eu hunain yn anhawdd ganddynt losci, eithr o'u gosod a'r dân ynghyd a sych-wydd, hwy â loscant yn gystal a hwythau; felly llawer o ddynion ieuaingc cyneddfol, er nad ydynt o honynt eu hunain mor hylithr i ddrygion• â rhai eraill, etto â ddygir ymmaith gyd 〈…〉 chefnlli, a rhyferthwy chwyrn-ffrwd cyfeillion drŵg i wneuthur annuwioldeb.
- *Tanwydd.
Phila. Deuwn bellach at y porth olaf, yr hwn yw drŵg siampl yr eglwyswŷr.