A20213:994
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Borevol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.Boreuol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Bydded tostur gennit o anwyl Dâd welled dy briodferch dy hûn in eistedd ymma i wared megis gwraig anhawddgar, a diymgeledd in wylofain, ac in galaru ai gwallt tros ei yscwyddau, wedi colli ei thegwch, ai phrydferthwch.
Bydded tostur gennit o anwyl Dâd weled dy briodferch dy hûn yn eistedd ymma i wared megis gwraig anhawddgar, a diymgeledd yn wylofain, ac yn galaru ai gwallt tros ei yscwyddau, wedi colli ei thegwch, ai phrydferthwch.
Diddana hi, Garedig Dâd: llawenhâ hi â llawenydd dy wynepryd, ac felly hardda, a thrwssiada hi, fell yr ymfodlonech ynddi megis priodfab in ei ddyweddi. In enwedig yr erfyniwn arnat gymmeryd trugaredd ar dy eglwys in y deyrnas yma: darpara i ni ddaioni, ac nid drygioni.
Diddana hi, Garedig Dâd: llawenhâ hi â llawenydd dy wynepryd, ac felly hardda, a thrwssiada hi, fel yr ymfodlonech ynddi megis priodfab yn ei ddyweddi. Yn enwedig yr erfyniwn arnat gymmeryd trugaredd ar dy eglwys yn y deyrnas yma: darpara i ni ddaioni, ac nid drygioni.
Na ddyro ni helbio in nwylaw yr Yspaenwyr gwaedlyd fell y mae ein pechodau in haeddu: Gwascara, ni attolygwn i ti o Arglwydd, ddychymmygion, a diddymma gydfwriadau pawb oll a fwriadasant orchfygu, a Diwin anghyfanneddu yr eglwys hon ar deyrnas.
Na ddyro ni helbio yn nwylaw yr Yspaenwyr gwaedlyd fel y mae ein pechodau yn haeddu: Gwascara, ni attolygwn i ti o Arglwydd, ddychymmygion, a diddymma gydfwriadau pawb oll a fwriadasant orchfygu, a Diwin anghyfanneddu yr eglwys hon ar deyrnas.