A26692:112
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Chapter 2: PEN. II. In dangos beth yw Dychweliad.Chapter 2: PEN. II. Yn dangos beth yw Dychweliad.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y pen ydoedd weithdy ystrywiau bydol, in awr a lenwir â meddyliau eraill, â myfyrdodau ynghylch ewyllys Duw. Psal. 1. 2. ac 119. 97. Ac ni ofala ei ben ef gymaint am ei elw, ac ⟨p. 29⟩am ei ddyledswydd, pa fodd i ryngu bodd Duw, ac i ochelyd pechod.
Y pen ydoedd weithdy ystrywiau bydol, yn awr a lenwir â meddyliau eraill, â myfyrdodau ynghylch ewyllys Duw. Psal. 1. 2. ac 119. 97. Ac ni ofala ei ben ef gymaint am ei elw, ac ⟨p. 29⟩am ei ddyledswydd, pa fodd i ryngu bodd Duw, ac i ochelyd pechod.
Ei gallon ydoedd gut i chwantau aflan, a wneir in awr in allor i arogl-dearth, a geidw dân a gwresogrwydd cariad Duw ynddi in oestadol. o'r hon yr Escyn aberth beunyddiol, gweddi, a mawl, ac arogldarth hyfryd, dymuniadau, a dyhead nefol, a hynny in gynnefinol, Psal. 108. 1. ac 119. 20. ac 139. 17, 18.
Ei galon ydoedd gutt i chwantau aflan, a wneir yn awr yn allor i arogl-darth, a geidw dân a gwresogrwydd cariad Duw ynddi yn oestadol. o'r hon yr Escyn aberth beunyddiol, gweddi, a mawl, ac arogldarth hyfryd, dymuniadau, a dyhead nefol, a hynny yn gynnefinol, Psal. 108. 1. ac 119. 20. ac 139. 17, 18.