A26692:117
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Chapter 2: PEN. II. In dangos beth yw Dychweliad.Chapter 2: PEN. II. Yn dangos beth yw Dychweliad.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Er i bechod lynu ynddo, a thrigo oi fewn, fell gwestwr digressaw. etto ni chaiff arglwyddiaethu arno, Rhuf. 6. 7, 14. Mae iddo ffrwyth in sancteiddrwydd, Rhuf. 6. 22. Er iddo frychu a diwyno ei waith in fynech, etto cyfraith a buchedd Christ yw'r copy y mae ei lygaid ef arno, ac y mae ynteu in ceisio ei ddilyn, Psal. 119. 30. Heb. 12. 2. In ddiragrith edrych at holl orchymynion Duw, a rhydd ufydddod iddynt, Psal. 119. 6. Gocheliff esceuluso y dyledswyddau lleiaf, ac arswyda wneuthur y pechodau lleiaf, Psal. 119. 113. Y gwendid sydd ynddo oi anfodd, sydd drwm ganddo. ac megis brychewyn mewn llygad, er ei fod in fychan etto mae 'n ofidus. [O din na ddarllen hyn heb edrych i'th gallon drwy ymholiad ddifrifol.] Nid yw'r gwir edifeiriol, Gristion in yr Eglwys, a Phagan in ei dŷ, sanct ar ei liniau, a thwyllwr in ei siop; nid yw in degymmu Mintys, a'r Cwmmin, ac in gadel heibio drugaredd a barn, a phethau trymmmaf y gyfraith, nac in ghyscod crefydd in gweithredu anghyfiawnder, Math. 23. 14, 23. Eithr try ymmaith oddiwrth ei holl anwireddau, i gadw ⟨p. 31⟩holl gyfreithiau Duw. Ezec. 18. 21. Cais hynny mewn cywirdeb calon, er nad allo in gwbl berffaith, ni rid gennad iddo ei hun i droseddu 'r un o honynt, Rhuf. 7. 15. In awr ymhyfryda in y gair, a gweddiau, ac in ol ei allu egir ei law, a thyn allan ei enaid ir newynog, Rhuf. 7. 22. Pfal. 109. 4. Isaiah 58. 10. Tyrr ymmaith ei bechodan trwy gyfiawnder, a'i anwireddau trwy drugarhau wrth drueniaid, Dan. 4. 27. Y mae ganddo gydwybod dda, gan ewyllysio byw in onest ym mhob peth, Heb. 13. 18. Ac iw gadw in ddidramgwydd tuag at Dduw a dynion.
Er i bechod lynu ynddo, a thrigo oi fewn, fel gwestwr digressaw. etto ni chaiff arglwyddiaethu arno, Rhuf. 6. 7, 14. Mae iddo ffrwyth yn sancteiddrwydd, Rhuf. 6. 22. Er iddo frychu a diwyno ei waith yn fynech, etto cyfraith a buchedd Crist yw'r copi y mae ei lygaid ef arno, ac y mae ynteu yn ceisio ei ddilyn,