A26692:132
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Chapter 2: PEN. II. In dangos beth yw Dychweliad.Chapter 2: PEN. II. Yn dangos beth yw Dychweliad.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y rhai y troiff y grasol attynt yw r Drindod fendigedig, y Tad, a'r Mâb, a'r Yspryd glan. Pan droer ac y sancteiddier din, gesid ei gallon ar Dduw in bennaf, a dywed wrtho fy rhan ydwyti, Psal. 119. 57. In yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid, Psal. 34. 2 Fy enaid, sydd oddiwrtho ef; efe yw fy nghraig, a'm hiechydwriaeth, a'm hymdiffynfa. In Nuw y mae fy jechydwriaeth, a'm gogoniant, craig fy nghadernid, am noddfa sydd in Nuw, Psal. 18. 1, 2. ac 62. 1, 6, 7.
Y rhai y troiff y grasol attynt yw r Drindod fendigedig, y Tad, a'r Mâb, a'r Yspryd glan. Pan droer ac y sancteiddier dyn, gesid ei galon ar Dduw yn bennaf, a dywed wrtho fy rhan ydwyti, Psal. 119. 57. Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid, Psal. 34. 2 Fy enaid, sydd oddiwrtho ef; efe yw fy nghraig, a'm hiechydwriaeth, a'm hymdiffynfa. Yn Nuw y mae fy jechydwriaeth, a'm gogoniant, craig fy nghadernid, am noddfa sydd yn Nuw, Psal. 18. 1, 2. ac 62. 1, 6, 7.
Os mini wybod ydwyti wedi cael troedigaeth ddiragrith, ystyr y pethau a ganlyn â'th enaid, a chwbl ac sydd ynot.
Os mynni wybod ydwyti wedi cael troedigaeth ddiragrith, ystyr y pethau a ganlyn â'th enaid, a chwbl ac sydd ynot.