A26692:162
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O beth erchill iw ystyried! A ddarfu i Dduw adeiladu 'r bŷd mawr hwn, a dangos cymmaint oi anfeidrol allu ac oi ddoethineb, ac oi ddaioni ynddo, ac a finny di fined o'r cwbl in offer wrth fod Dŷn ar y bay, in ei yspeilio ef o'r gogoniant a haeddei efe am y cwbl? Och! meddwl am hyn, tra fyddech di in anrasol, y mae'r creaduriaid in dy wasanaethu di in offer. Gwaith offer ith fŵyd dy borthi di, ag ir ser a'r haul olevo iti a'th wasanaethu, Hos. 2. 21, 22. Barn 5. 20. Offer ith ddillad dy gynhesu, ac ith anifail dy ddwyn, ac ir creadigaeth oll lafurio er dy fwyn di, rhoddant eu ffrwyth iti fell y byddo iti â hynny ogoneddu eu creawdwr, ac onis gwnei hynny y maent in cyd-ocheneidio, ac in cyd-ofidio, Rhuf. 8. 22.
O beth erchill iw ystyried! A ddarfu i Dduw adeiladu 'r bŷd mawr hwn, a dangos cymmaint oi anfeidrol allu ac oi ddoethineb, ac oi ddaioni ynddo, ac a fynni di fyned o'r cwbl yn ofer wrth fod Dŷn ar y bai, yn ei yspeilio ef o'r gogoniant a haeddei efe am y cwbl? Och! meddwl am hyn, tra fyddech di yn anrasol, y mae'r creaduriaid yn dy wasanaethu di yn ofer. Gwaith ofer ith fŵyd dy borthi di, ag ir ser a'r haul oleuo iti a'th wasanaethu, Hos. 2. 21, 22. Barn 5. 20. Ofer ith ddillad dy gynhesu, ac ith anifail dy ddwyn, ac ir creadigaeth oll lafurio er dy fwyn di, rhoddant eu ffrwyth iti fel y byddo iti â hynny ogoneddu eu creawdwr, ac onis gwnei hynny y maent yn cyd-ocheneidio, ac yn cyd-ofidio, Rhuf. 8. 22.
3. Heb râs offer fydd dy grefydd, Jag. 1. 26. ⟨p. 52⟩Nid all dy ddyledswyddau crefyddol na rhyngu bodd Duw, Rhuf. 8. 8. Na lleshau dy enaid, 1 Cor. 13. 2, 3. Er ith wasanaeth fod in olygus, etto heb râs ni bid hyfryd gan Dduw mono, Isaiah 1. 14. Mal. 1. 10