A26692:176
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Fell y mae Duw in dangos cariad ir pechadur, mae ei anrhydedd in gofyn iddo ddangos casineb ir pechod; am hynny rhaid ir hwn a henwo Enw 'r Jesus ymadel â ei anwiredd, 2 Tim 2. 19. A naccau annuwioldeb. Rhaid ir hwn sydd ganddo obaith bywyd drwy Grist ei burro ei hun, megis y mae yntef in bûr, 1 Joan 3. 3. Tit. 2. 12. ac onide tybid fod christ in hoffi pechod. Mine Duw ir bŷd wybod nad ydyw efe in llochi pechod, er ei fod in ei faddeu. Gan i Ddafydd dduwiol ddywedyd, ciliwch oddiwrthif holl weithredwyr anwiredd, Psal. 6. 8. Ac iddo gau 'r drws in eu herbyn, Psal. 101. 7. Oni ddisgwyl y cyfryw 'r un fâth beth gan Grist sanctaidd? Ni byddei hard iddo ollwn y cŵn ar ei fwrdd, neu adel ir môch letteva gydâ ei blant, a gwneuthwr monwes Abraham in nyth gwiberod.
Fel y mae Duw yn dangos cariad ir pechadur, mae ei anrhydedd yn gofyn iddo ddangos casineb ir pechod; am hynny rhaid ir hwn a henwo Enw 'r Jesu ymadel â ei anwiredd, 2 Tim 2. 19. A naccau annuwioldeb. Rhaid ir hwn sydd ganddo obaith bywyd drwy Grist ei buro ei hun, megis y mae yntef yn bûr, 1 Ioan 3. 3. Tit. 2. 12. ac onide tybid fod christ yn hoffi pechod. Myn Duw ir bŷd wybod nad ydyw efe yn llochi pechod, er ei fod yn ei faddeu. Gan i Ddafydd dduwiol ddywedyd, ciliwch oddiwrthif holl weithredwyr anwiredd, Psal. 6. 8. Ac iddo gau 'r drws yn eu herbyn, Psal. 101. 7. Oni ddisgwyl y cyfryw 'r un fâth beth gan Grist sanctaidd? Ni byddei hardd iddo ollwn y cŵn ar ei fwrdd, neu adel ir môch letteua gydâ ei blant, a gwneuthwr monwes Abraham yn nyth gwiberod.
Y mae swydd Christ hefyd in gofyn iddo ddarostwng y balch, ac arbed yr ufydd. Swydd tywysog yw bod in ofn i weithredwyr drwg, ac in glôd ir Sawl a wnêl dda, Rhuf. 13, 3, 4. Gweinidog Duw, yw efe, dialudd llid ir hwn sydd in gwneuthur drwg. Pe cynhaliai