A26692:194
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Tyngwŷr. Diwedd y rhain heb edifeirwch gywyr yw dinystr cyflym, a damnedigaeth, Jag. 5. 12. Zech. 5. 1, 2, 3.
6. Difenwŷr ac absenwŷr. Y rhai a ymhyfrydant in bwrw tom in wynebau eu cymydogion, ac oni feiddiant hynny in eu gŵydd hwy, archollant hwynt in ddirgel o ôl eu cefnau, Psal. 15. 1, 3. 1 Cor. 6. 10. ac 5. 11.
6. Difenwŷr ac absenwŷr. Y rhai a ymhyfrydant yn bwrw tom yn wynebau eu cymydogion, ac oni feiddiant hynny yn eu gŵydd hwy, archollant hwynt yn ddirgel o ôl eu cefnau, Psal. 15. 1, 3. 1 Cor. 6. 10. ac 5. 11.
7. Lladron, a gorthrymwŷr, a thwyllwŷr, a phawb a ddaliant drwynau eu brodyr wrth y maen llifo, ac a barant golled iddynt; Rhaid i'r cyfryw ystyried fod yr Arglwydd in ddialudd arnynt oll, 1 Thess. 4. 6. Gwrandewch hyn chwi weinidogion anffyddlon, a chwithau grefftwŷr twyllodrus, a boneddigion traws: derbyniwch eich barn. Caviff Duw ei ddrws ich erbyn chwi, a throiff eich tryssorau anghyfiawnder in dryssorau digofaint, a pheriff ir aur a'r arian a ennillasoch chwi ar gam, fod fell plwm toddedig in eich ymyscaroedd chwi i'ch penydio, 1 Cor. 6. 9, 10