A26692:224
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Och dyma'r peth sydd in chwanegu 'r anhawstra, fy mod i lefaru wrth ray byddar, je wrth ray meirwon mewn camweddau a phechodau, Ephes. 2. 1.
Och dyma'r peth sydd yn chwanegu 'r anhawstra, fy mod i lefaru wrth rai byddar, ie wrth rai meirwon mewn camweddau a phechodau, Ephes. 2. 1.
Pe gallwn ddwyn Paradwys ir golwg, ac herddangos teyrnas nef in y mod godidoccaf, fell y dangoswyd teyrnasoedd y bŷd a'u gogoniant i'n Hachubwr; neu pe gallwn ddinoethi wyneb Llyngc lynn dwfn Topher, ac agor dorau yr odyn uffernol fawr, ai holl ddychryniadau, och nid oes ganddynt lygaid i welled, Math. 13. 14, 15. Pe medrwm ddarlunio prydferthwch sancteiddrwydd, a gogoniant yr Efengyl in fywiol, neu pe medrwn ddatcuddio gwrthuni diafolig pechod, nis gallent ddirnad tegwch y nail, nac aflendid y llall, mwy nag y gall y deillion ddirnad lliwiau. Canys y maent wedi tywyllu eu deal, wedi ymddieithro oddiwrth fuchedd Dduw drwy 'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon, Ephes. 4. 18. Nis gallant wybod y pethau sydd o yspryd Duw, oblegid in Ysprydol y bernir hwynt, 1 Cor. 2. 14. Ni ddichon neb and grâs Duw agoryd eu llygaid, Act. 26. 18. Plant tywyllwch ydynt, ac in rhodio ynddo, 1 Joan 1. 6. Je yr goleuni ynddynt sydd dywyllwch, Math. 6. 23. A ganafi eu Marwnâd, a ddarllenaf eu barn, a wnaf i udcorn ofnadwy Duw seinio in eu clustiau, fall y bo iddynt ferwino, ac ir faith ddychryn eu cymeryd, ac a ddigwyddodd i Belshazzar, i berry iw hwynebau lasu, ac iw cymmalau ymddattod, ac ⟨p. 79⟩