A26692:226
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Er hynny ni chynhyrfant. A ddenafi hwynt â hyfryd lais, â chân beraidd, â newyddion da'r Efengyl, â diddanwch addewidion Duw, y sydd fawr jawn a gwerthfawr? 2 Pet. 1. 4. Ni chynhyrfir hwynt er hynny chwaith, oni bae i mi allu rhoddi iddynt glustiau, Math. 13. 15. gydâ mynegi y newyddion.
Er hynny ni chynhyrfant. A ddenafi hwynt â hyfryd lais, â chân beraidd, â newyddion da'r Efengyl, â diddanwch addewidion Duw, y sydd fawr iawn a gwerthfawr? 2 Pet. 1. 4. Ni chynhyrfir hwynt er hynny chwaith, oni bae i mi allu rhoddi iddynt glustiau, Math. 13. 15. gydâ mynegi y newyddion.
A osodaf ger eu bronnau wledd o bascedigion, a gwin doethineb, bara Duw, a phren y bywyd, a'r Manna cuddiedig? Nid oes ganddynt chwant iddynt, 1 Cor. 2. 14. Math. 22. 5. Pe gwascwn y grawnwin goreu o freiniau efangylol, ac yfed attynt in y gwîn cyfoethoccaf in nhŷ Dduw, ac a ddaeth oi ystlys ef; neu os rhoddwn o'u blaen y diliau mêl o dystiolaethau Duw, Psal. 19. 10. Och! nid oes ganddynt archwaith iw blasu. Ni chyfyd y marw i brofi'r hyn a gyfrenir in ei gladdedigaeth ef, na'r meirw mewn pechod i brofi 'r ymborth Sanctaidd â'r hwn yr hiliodd yr Arglwydd ei fwrdd.
A osodaf ger eu bronnau wledd o bascedigion, a gwin doethineb, bara Duw, a phren y bywyd, a'r Manna cuddiedig? Nid oes ganddynt chwant iddynt, 1 Cor. 2. 14