A26692:230
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O Arglwydd Hollallung, yr hwn a weithi, ac nid all neb dy luddias, tosturia wrth yr Eneidiau pechadurus, a dywed wrthynt fell wrth Lazarus, am ddyfod allan o'i cyflwr marw. Goleva eu tywyllwch hwy, O Arglwydd, yr hwn wit oleuni, a bydded i godiad haul o'r uchelder ymweled â'r tywyll, wrth y rhai yr wyf in llefaru. Tydi eli agor y llygaid a gaeodd marwolaeth, a chan dy fod in llunio'r glust jelly ddychwelyd y clywed. Dywed wrth glustiau gwrandawyr dy air, agorer chwi. Dod iddynt lygaid i ganfod dy odidowgrwydd, ac archwaith i flasu dy felystra, a phar iddynt arogli dy ennaint, a theimlo pwys pechod a digofaint, fell y delont at Grist am orphwystra. Gorchymmyn i'th weision brophwydo i'r escyrn sychion, fell yr elont in bobl fywiol a lliosog.
O Arglwydd Hollallung, yr hwn a weithi, ac nid all neb dy luddias, tosturia wrth yr Eneidiau pechadurus, a dywed wrthynt fel wrth Lazarus, am ddyfod allan o'i cyflwr marw. Goleua eu tywyllwch hwy, O Arglwydd, yr hwn wyt oleuni, a bydded i godiad haul o'r uchelder ymweled â'r tywyll, wrth y rhai yr wyf yn llefaru. Tydi elli agor y llygaid a gaeodd marwolaeth, a chan dy fod yn llunio'r glust gelli ddychwelyd y clywed. Dywed wrth glustiau gwrandawyr dy air, agorer chwi. Dod iddynt lygaid i ganfod dy odidowgrwydd, ac archwaith i flasu dy felystra, a phar iddynt arogli dy ennaint, a theimlo pwys pechod a digofaint, fel y delont at Grist am orphwystra. Gorchymmyn i'th weision brophwydo i'r escyrn sychion, fel yr elont yn bobl fywiol a lliosog.
Bellach ystyriwn fod trueni 'r annychweledig in dra mawr, je in fwy nag y gall calon din marwol ei deal, na'i dafod ei draethu; canys,
Bellach ystyriwn fod trueni 'r annychweledig yn dra mawr, ie yn fwy nag y gall calon dyn marwol ei ddeall, na'i dafod ei draethu; canys,
1. Y mae'r Duw anfeidrol in eu herbyn. Tosturus yw bod heb Dduw in y bid.