A26692:231
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Bellach ystyriwn fod trueni 'r annychweledig in dra mawr, je in fwy nag y gall calon din marwol ei deal, na'i dafod ei draethu; canys,
Bellach ystyriwn fod trueni 'r annychweledig yn dra mawr, ie yn fwy nag y gall calon dyn marwol ei ddeall, na'i dafod ei draethu; canys,
1. Y mae'r Duw anfeidrol in eu herbyn. Tosturus yw bod heb Dduw in y bid. Ephes. 2. 12. Gwaeddodd Micah in groch ar ol meibion Dan, fy Nuwiau a ddygafoch chwi ymmaith, a pheth sydd gennifi mwyach? Barn. 18. 24. Tossed y cwynodd Saul in ei gyfyngder, y mae'r Philistiaid in dyfod in fy erbyn, a Duw a giliodd oddiwrthifi, 1 Sam. 28. 15. Pan fyddoch in ymadel a'r bid heb gymmod â Duw, i bale 'r ewch chwi? Beth a wnewch chwi in nydd eich ymweliad, at bwy y ffowch am gynnorthwy, a pha le y gedwch eich gogoniant? Isaiah. 10. 3. Y rhai sydd ganddynt Dduw i fined atto in eu cyfyngder, i roddi eu pwys arno in eu blinderau, ac i ddywedyd eu cwyn wrtho pan gaffant gam, a wyddant mor druenus yw bod hebddo.
1. Y mae'r Duw anfeidrol yn eu herbyn. Tosturus yw bod heb Dduw yn y byd. Ephes. 2. 12. Gwaeddodd Micah yn groch ar ol meibion Dan, fy Nuwiau a ddygafoch chwi ymmaith, a pheth sydd gennifi mwyach? Barn. 18. 24. Tost y cwynodd Saul yn ei gyfyngder, y mae'r Philistiaid yn dyfod yn fy erbyn, a Duw a giliodd oddiwrthifi, 1 Sam. 28. 15. Pan fyddoch yn ymadel a'r byd heb gymmod â Duw, i ba le 'r ewch chwi? Beth a wnewch chwi yn nydd eich ymweliad, at bwy y ffowch am gynnorthwy, a pha le y gedwch eich gogoniant? Esay. 10. 3. Y rhai sydd ganddynt Dduw i fyned atto yn eu cyfyngder, i roddi eu pwys arno yn eu blinderau, ac i ddywedyd eu cwyn wrtho pan gaffant gam, a wyddant mor druenus yw bod hebddo.