A26692:263
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ystyria wrthuni ac halogrwydd pechod: y mae cyn ddued ag uffern, llun diafol wedi ei ddarlunio ar yr Enaid yw, 1 Joan 3. 8, 10. Pan agorer llygaid dy deal, bid ddychrynllyd gennit dy welled dy hun. Nid oes dom mor aflan, na chwdfa mor wrthwynebus, na burgyn mor ddrwgsawrllyd, na chlwyf mor heintus ac yw'r pechod, yr hwn sydd in dy lenwi, ac in dy amgylchu â'i frunti, ac in dy wneuthur in ffiaidd i bur olygon Duw, Job 15. 15, 16. Nid yw'r llyffant du mor erchyll genniti, ac ydwyti i burdeb Duw, nes dy lanhau drwy râs Christ.
Ystyria wrthuni ac halogrwydd pechod: y mae cyn ddued ag uffern, llun diafol wedi ei ddarlunio ar yr Enaid yw, 1 Joan 3. 8, 10. Pan agorer llygaid dy ddeall, bydd ddychrynllyd gennit dy weled dy hun. Nid oes dom mor aflan, na chwdfa mor wrthwynebus, na burgyn mor ddrwgsawrllyd, na chlwyf mor heintus ac yw'r pechod, yr hwn sydd yn dy lenwi, ac yn dy amgylchu â'i frunti, ac yn dy wneuthur yn ffiaidd i bur olygon Duw, Job 15. 15, 16. Nid yw'r llyffant du mor erchyll genniti, ac ydwyti i burdeb Duw, nes dy lanhau drwy râs Christ.
In enwedig ystyr dy lygredigaeth gwreiddiol: offer yw toccio 'r canghennau tra fyddo 'r bôn heb dderbyn un dyrnod. Nid gwiw gwehin lle byddo dwfr in codi, lleinw eilwaith gynted ag ei gwaccaer. Gosoder bwyall edifeirwch wrth wreiddin anwiredd, fell y gwnaeth Dafydd, Psal. 51. 5. Ystyr ddyfned yw llygredigaeth in dy nature di, ac fell y mae wedi ymdanau ynoti, ac wedi ymgymmyscu â thydi, fell gydâ'r Apostol y crochlefech rhag corph marwolaeth, Rhuf. 7. 21. Ac y cwynech gydag Awstin dy fod in llestr i ddal brunti a drewi. Hwn sydd in dy wneuthur di in anhydyn i ddaioni ac in dueddol i ddrwg, Rhuf. 7. 15. Hwn sydd in tywyllu dy feddwl, in gwyr-droi dy ewyllys, in anhymmheru dy search, in syfrdanu dy gydwybod, in gwanhau dy goffadwriaeth am ddaioni, ac in dy wneuthur in uffern fechan, Jag. 3. 6. Hwn sydd in gwneuthur dy aelodau in arfau anghyfiawnder, Rhuf. 6. 19. In llenwi'r Pen ag ystrywiau drwg,