A26692:265
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Cais deimlad in dy gallon o'th drueni presennol, cofia pan gyscech di, y jelly ddeffro in y tân uffernol, a phan gyfodech, y jelly syrthio iddo cyn yr hwyr. Pe gwelit un colledig ynghrog gerfydd ei ganol wrth edef uwch ben ffwrn danllyd Nebuchadnezzar, a honno ym mron torri bob mynud iw ollwn i lawr, oni thosturiai dy gallon dross y cyfryw un? Weal tidy ydyw'r dŷn, os ydwyti etto in dy bechod. Os torriff edef fregus dy fywyd ti heno, i bale y syrthi di, onid ir llynn sydd in berwi o dân a brwmstan? Ac oni chryni wrth ddarllen hyn, o babeth y gwnawd dy gallon ⟨p. 99⟩di? Oes genniti nac ofn tuag at Dduw, na search tuag attat dy hunan? Meddwl am dy drueni, nes ith gallon weiddi am Grist, fell y gwnae din ar foddi am gafn, neu'r archolledig am feddig, Math. 9. 12. Ni ffoiff y lleiddiad ir ddinas noddfa nes i ddialudd y gwaed erlyn ar ei ôl ef; Ni ddaw pobl at Grist nes eu curo allan o honynt eu hunain. Ni ddychwelodd yr afradlon nes i wall ac eisieu ei gymmell ef, Luc 15. 16, 17. Ni chais Laodicea nac aur na gwiscoedd, nac ennaint Christ, nes gwybod ei bod in dlawd, in noeth, ac in ddall, Datc. 3. 17, 18. Gwell iti ofidio in awr o herwydd dy drueni, a cheisio ei ochelyd, na dioddef ynddo dross bight.
3. Cais deimlad yn dy galon o'th drueni presennol, cofia pan gyscech di, y gelli ddeffro yn y tân uffernol, a phan gyfodech, y gelli syrthio iddo cyn yr hwyr. Pe gwelit un colledig ynghrog gerfydd ei ganol wrth edef uwch ben ffwrn danllyd Nebuchadnezzar, a honno ym mron torri bob mynud iw ollwn i lawr, oni thosturiai dy galon dros y cyfryw un? Wele tydi ydyw'r dŷn, os ydwyti etto yn dy bechod. Os torriff edef fregus dy fywyd ti heno, i ba le y syrthi di, onid ir llynn sydd yn berwi o dân a brwmstan? Ac oni chryni wrth ddarllen hyn, o ba beth y gwnawd dy galon ⟨p. 99⟩di? Oes genniti nac ofn tuag at Dduw, na serch tuag attat dy hunan? Meddwl am dy drueni, nes ith galon weiddi am Grist, fel y gwnae dyn ar foddi am gafn, neu'r archolledig am feddig, Math. 9. 12. Ni ffoiff y lleiddiad ir ddinas noddfa nes i ddialudd y gwaed erlyn ar ei ôl ef; Ni ddaw pobl at Grist nes eu curo allan o honynt eu hunain. Ni ddychwelodd yr afradlon nes i wall ac eisieu ei gymmell ef, Luc 15. 16, 17. Ni chais Laodicea nac aur na gwiscoedd, nac ennaint Crist, nes gwybod ei bod yn dlawd, yn noeth, ac yn ddall, Datc. 3. 17, 18. Gwell iti ofidio yn awr o herwydd dy drueni, a cheisio ei ochelyd, na dioddef ynddo dros byth.