A26692:271
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
7. Derbyn Grist in ei holl swyddau, i'th waredu, a'th gynnorthwyo, Heb. 7. 25. Joan 3. 36. Isaiah 45. 22. Os devei atto ni fwrw monot allan, Joan 6. 37. Y mae efe in galw in yr heolydd, in curo wrth y dryssau i geisio gan bobl ei dderbyn, a phreswylio gydag ef, Dihar. 1. 20. Datc. 3. 20. Ai gymeryd ef iddynt in Frenin, in Offeiriad, ac in Brophwyd, ac i gymeryd eu cross iw ddilyn ef.
7. Derbyn Grist yn ei holl swyddau, i'th waredu, a'th gynnorthwyo, Heb. 7. 25. Ioan 3. 36. Esay 45. 22. Os deuei atto ni fwrw monot allan, Ioan 6. 37. Y mae efe yn galw yn yr heolydd, yn curo wrth y dryssau i geisio gan bobl ei dderbyn, a phreswylio gydag ef, Dihar. 1. 20. Datc. 3. 20. Ai gymeryd ef iddynt yn Frenin, yn Offeiriad, ac yn Brophwyd, ac i gymeryd eu croes iw ddilyn ef.
8. Dod i'r Arglwydd gwbl ac sydd ynoti: Medd yr Apostol, hwy ai rhoddasant eu hunain i'r Arglwydd, 2 Cor. 8. 5. Rhoddwch eich Cyrph ⟨p. 102⟩in Aberth byw, Rhuf. 12. 1. Dod iddo dy Enaid â'i holl gynneddfau, a'th gorph, â'i holl aelodau, fell y gogonedder ef â'th gorph ac â'th yspryd y sydd eiddo ef, 1 Cor. 6. 20. Bydded dy feddwl in cydnabod fod Duw in haeddu pob derbyniad, a'i fod in bennaf o ddeng mîl, ac nad oes dim mor ddymunol ag ef, Dihar. 3. 13, 14, 15. Math. 13. 44. Gwel ei fod in haeddu ei foliannu, Datc. 5. 12. Bydded dy ewyllys in rhwydd in uno ag ef. Bydded dy goffadwriaeth in dryssor-dŷ i gadw gwirioneddau Duw ynddo, ei addewidion. ei orchymmynion, ei drugareddau. Bydded dy gydwybod in rhybuddiwr ffyddlon iti, i'th arwain in ffyrdd Duw. Bydded ith search fod in glaf am Grist, ai gydnabod ef in ddymuniad cenhedloedd. Bydded dy ofn in plygy'r glin iddo, gan ei addoli'n ostyngedig. Bydded dy dristwch am ddianrhydeddu Duw, a throseddu ei orchymynion ef. Bydded dy dig, a'th gâs in erbyn pechod, a'r hyn sydd gâs gan Dduw. Bwriada in dy gallon ymadel â phob peth a feddech er mwyn Jesus Grist, dy berthynasau, a'th feddiannau, a'th fywyd hefyd, pan ddigwyddo erlid ar yr Efengyl, Luc 14. 26, 27, 33.