A26692:309
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Na thybiwch fod pethau crefyddol iw cyflawni in eich teuluoedd in unic pan gaffoch ennyd oddiwrth achosion bydol, eithr edrychwch ar weddiau mor rheidiol a'ch prydiau bwyd. Cydnabydded teuluoedd fod eneidiau ei deiliaid wedi eu rhoddi dan eu golugiad hwynt, ac y gofynnir ganddynt hwy gyfrif am y rhai a gyfrgoller drwy eu esceulusdra hwy: A'r pride hynny y cant welled fod gwaed eneidiau in evogrwydd trwm, mogelont ynteu rhag ei gael in eu godreu hwy, a rhagddarparont fwy na bwyd tuag at eu plant a'u gweinidogion, canys rhoddant borthiant iw haneifeiliaid.
1. Na thybiwch fod pethau crefyddol iw cyflawni yn eich teuluoedd yn unic pan gaffoch ennyd oddiwrth achosion bydol, eithr edrychwch ar weddiau mor rheidiol a'ch prydiau bwyd. Cydnabydded teuluoedd fod eneidiau ei deiliaid wedi eu rhoddi dan eu golugiad hwynt, ac y gofynnir ganddynt hwy gyfrif am y rhai a gyfrgoller drwy eu esceulusdra hwy: A'r pryd hynny y cant weled fod gwaed eneidiau yn euogrwydd trwm, mogelont ynteu rhag ei gael yn eu godreu hwy, a rhagddarparont fwy na bwyd tuag at eu plant a'u gweinidogion, canys rhoddant borthiant iw haneifeiliaid.
2. Ymarferwch a darllen y gair, ac a chanu Psalmau in eich teuluoedd, Psal. 118. 15. Isaiah 34. 16. Joan 5. 39. Darllenir i Grist ganu hymnau gydâ ei ddiscyblion, y rhai oeddent ei dylwyth ef, Math. 26. 30. Luc 9 18.
2. Ymarferwch a darllen y gair, ac a chanu Psalmau yn eich teuluoedd, Psal. 118. 15. Esay 34. 16. Joan 5. 39. Darllenir i Grist ganu hymnau gydâ ei ddiscyblion, y rhai oeddent ei dylwyth ef, Math. 26. 30. Luc 9 18.