A26692:318
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Math. 5. 47. Pa rhagoriaeth yr ydych chwi in ei wneuthur? Y mae 'r yscrythyr hon in rhoi achlysur i ni i chwilio beth a ddylai gwir Gristianogion ei wneuthur y tu hwnt i bobl eraill, ynghylch yr hyn destyn cawn oleu-fyneg wrth ystyried y pethau a ganlyn.
MAth. 5. 47. Pa rhagoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? Y mae 'r yscrythyr hon yn rhoi achlysur i ni i chwilio beth a ddylai gwir Gristianogion ei wneuthur y tu hwnt i bobl eraill, ynghylch yr hyn destyn cawn oleu-fyneg wrth ystyried y pethau a ganlyn.
1. Cywyr Gristion a gâr y Sawl ai casânt ef, ac a ewyllysia in dda ir Sawl a geisiant ⟨p. 127⟩wneuthur iddo ddrwg. Y mae hyn in hyspys in y geiriau sydd in rhagflaenori 'r testyn. Math. 5. 44, 46. Medd Christ yr ydwyfi in dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: Gwnewch dda i'r Sawl a'ch casânt, a gweddiwch tros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a'ch erlidiant: Oblegid os cerwch y Sawl a'ch caro pa wobr sydd i chwi? Oni wna'r Publicanod hefyd yr un peth? Ac os cyferchrwch well i'ch brodyr in unig, onid ydyw y publicanod befyd in gwneuthur felly? Meidr pawb hoffi'r Sawl ai hoffant hwy, and dymuno'n dda ir Sawl a wnelo ddrwg ini sydd anaml, a phriodol i wir Gristion in unig. Dywedodd Athro enwog am un ydoedd in anghyttuno ag ef mewn rhai pethau, in ei wŷn pe galwei fi 'n gi, tystiolaethwn ei fod: ef in wâs i Grist er hynny. Yscrifennir am y merthyr Escob Cranmer y gelid ei gael ef in dirion wrth wneuthur anghymwynas iddo, a rhai oi eiriau diweddaf ef a ddywed, na chawsei efe fwy hyfrydwch mewn dim in y bŷd nag wrth faddeu 'r cam a wneid iddo, a gwneuthur tiriondeb ir rhai a geisient niwed iddo. Meddwl ditheu ddarllenydd am y rhai sydd in chwareu in attcas â thy, ac ystyria pa fodd y gellych wneuthur iddynt leshâd, gan weddio drostynt, fell y byddech blentyn i'th Dâd yr hwn sydd in y nefoedd, yr hwn sydd in peri iw haul godly ar y drwg a'r da,