A26692:343
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Bod eich Amcan ar ogoneddu Duw in y pethau a wneloch. Eisieu cywyr ddiben pechodd y Pharisaeaid, a Jehu wrth wneuthur y pethau oedd orchymynedig.
2. Bod eich Amcan ar ogoneddu Duw yn y pethau a wneloch. Eisieu cywyr ddiben pechodd y Pharisaeaid, a Jehu wrth wneuthur y pethau oedd orchymynedig.
3. Bod eich gweithredoedd in deilliaw oddiwrth wir radau ynoch: megis ffydd, ni thal gweddi ddim hebddi, Jag. 1. 6, 7. A chariad, pe rhoddem ein da ir tlodion, a'n cyrph ir tân heb gariad, ni lesaeu i ni. Lle byddo caeth ofn, neu bigiad cydwybod, neu wâg ogoniant in gosod pobl ar ryw orchwylion, ni byddant gymeradwy gan Dduw. Bydded ynoch ofn duwiol, a pharch i enw Duw, ac ystyriaeth pwyllog o'i bresennoldeb ef, ac y dylem fwriadu gogoniant Duw in ein holl orchwylion ysprydol a bydol, gan wasanaethu 'r Arglwydd Christ ynddynt, Col. 3. 24. Y mae 'r grasol in gwasanaethu Duw drwy ei lafur ar ddyddiau gwaith, gydag ar orphwyssa'r Sabbath. Nid oes un o blant Duw in byw iddo ei hun, Rhuf. 14. 7. Eich dyledswydd yw ceisio dyscu ar y Sabbath, pa fodd i wasanaethu Duw drwy'r wythnos. Teilwng yw 'r Arglwydd i dderbyn gogoniant ac anrhydedd, canys efe a greawdd bob peth, ac o herwydd ei ewyllys ef y maent, ac y crewyd hwynt, Datc. 4, 11.
3. Bod eich gweithredoedd yn deilliaw oddiwrth wir radau ynoch: megis ffydd, ni thal gweddi ddim hebddi, Jag. 1. 6, 7. A chariad, pe rhoddem ein da ir tlodion, a'n cyrph ir tân heb gariad, ni lesaeu i ni. Lle byddo caeth ofn, neu bigiad cydwybod, neu wâg ogoniant yn gosod pobl ar ryw orchwylion, ni byddant gymeradwy gan Dduw. Bydded ynoch ofn duwiol, a pharch i enw Duw, ac ystyriaeth pwyllog o'i bresennoldeb ef, ac y dylem fwriadu gogoniant Duw yn ein holl orchwylion ysprydol a bydol, gan wasanaethu 'r Arglwydd Crist ynddynt, Col. 3. 24. Y mae 'r grasol yn gwasanaethu Duw drwy ei lafur ar ddyddiau gwaith, gydag ar orphwyssa'r Sabbath. Nid oes un o blant Duw yn byw iddo ei hun, Rhuf. 14. 7. Eich dyledswydd yw ceisio dyscu ar y Sabbath, pa fodd i wasanaethu Duw drwy'r wythnos. Teilwng yw 'r Arglwydd i dderbyn gogoniant ac anrhydedd, canys efe a greawdd bob peth, ac o herwydd ei ewyllys ef y maent, ac y crewyd hwynt, Datc. 4, 11.