A26692:52
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Introduction: GWAHODDIAD TAER I BECHADURIAID I droi at DDUW, Ac i dderbyn Jechydwriaeth Dragwyddol.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
FY ngharedigion, am y rhai yr wyf in hiraethus, yr wyf in fy nghydnabod fy hun in ddyledwr i chwi oll, i roddi i bob un o honoch ei gyfran fell y mynwn fynghael in oruchwiliwr ffyddlon i deulu Duw. And y mae'r Pysygwr a'r gofal mwyaf ynghylch y cyfryw gleifion ac fydd in y perigl mwyaf, ac ymyscaroedd y tâd a dosturia fwyaf wrth y plentyn a fo ar drangcedigaeth. Lliaws y rhai diadgenedledig in eich plith, sy'n galw am fy nosturi tyneraf, a'm diwydrwydd cyflymmaf iw cipio allan o'r tan. Jude 23. O herwydd hynny attynt hwy yr wyf in gosod y liniau hyn in y fan gyntaf.
FY ngharedigion, am y rhai yr wyf yn hiraethus, yr wyf yn fy nghydnabod fy hun yn ddyledwr i chwi oll, i roddi i bob un o honoch ei gyfran fel y mynwn fynghael yn oruchwiliwr ffyddlon i deulu Duw. Ond y mae'r Pysygwr a'r gofal mwyaf ynghylch y cyfryw gleifion ac fydd yn y perigl mwyaf, ac ymyscaroedd y tâd a dosturia fwyaf wrth y plentyn a fo ar drangcedigaeth. Lliaws y rhai diadgenedledig yn eich plith, sy'n galw am fy nosturi tyneraf, a'm diwydrwydd cyflymmaf iw cipio allan o'r tan. Jude 23. O herwydd hynny attynt hwy yr wyf yn gosod y liniau hyn yn y fan gyntaf.
And o ble y cyrchaf fy rheswmau, a pha fodd y dewisaf fy ngeiriau? Arglwydd pa fodd y denaf hwynt, â pha beth yr ennillaf hwynt? O nas gwyddwn i! Yscrifennwn attynt âm dagrau ac â'm gwaed, ymbiliwn â hwynt ar fyngliniau, a byddwn dradiolchgar iddynt os cymerent eu perswadio i edifarhau ac i droi.
Ond o ble y cyrchaf fy rheswmau, a pha fodd y dewisaf fy ngeiriau? Arglwydd pa fodd y denaf hwynt, â pha beth yr ennillaf hwynt? O nas gwyddwn i! Yscrifennwn attynt âm dagrau ac â'm gwaed, ymbiliwn â hwynt ar fyngliniau, a byddwn dradiolchgar iddynt os cymerent eu perswadio i edifarhau ac i droi.