A26692:61
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. I. In dangos beth nid yw dychweliad, ac in diwygio camgymeriadau in ei gylch.
PEN. I. Yn dangos beth nid yw dychweliad, ac yn diwygio camgymeriadau yn ei gylch.
ER ir Samariaid deillion addoli'r peth ni wyddent; Joan 4. 22. ac ir Atheniaid digred drwy yscrifen anrhegu eu hallor i'r Duw nid adwaenir, Act. 17. 23. Ac ir Papistiaid twyllodrus alw anwybodaeth in fam duwioldeb, a hi in fam dinystr, Hosh. 4. 6. Etto pawb a'r a ddeallant nature ddynol, a gweithrediadau 'r Enaid rhesymmol, yr hwn y mae'r meddwl iw reoli, a ddirnadant reitied iw gollwn goleuni iw fewn os mynnir ei berswadio Ignorantis non est consensus. Sâl yw cyttundeb yr anwybodus. Am hynny fell na chamgymeroch, dangosaf i chwi beth yw'r dychweliad a fynwn i chwi ymegnio am dani.
ER ir Samariaid deillion addoli'r peth ni wyddent; Joan 4. 22. ac ir Atheniaid digred drwy yscrifen anrhegu eu hallor i'r Duw nid adwaenir, Act. 17. 23. Ac ir Papistiaid twyllodrus alw anwybodaeth yn fam duwioldeb, a hi yn fam dinystr, Hosh. 4. 6. Etto pawb a'r a ddeallant natur ddynol, a gweithrediadau 'r Enaid rhesymmol, yr hwn y mae'r meddwl iw reoli, a ddirnadant reitied iw gollwn goleuni iw fewn os mynnir ei berswadio Ignorantis non est consensus. Sâl yw cyttundeb yr anwybodus. Am hynny fel na chamgymeroch, dangosaf i chwi beth yw'r dychweliad a fynwn i chwi ymegnio am dani.
Dywed ystori genhedlig i Jau ollwn coronau aur o'r nef i lawr, a'u dwyn hwy i gyd and un, gan ladron: ar hynny rhag colli hwnw hefyd ydoedd beth mor werthfawr; gwnaethpwyd rhai eraill cyn debycced iddo, fell os caisie neb ei ddwyn, na alley wybod rhagor rhyngtho a'r lleill. Ac in ddinam fy ngharedigion y mae'r Cythrael in gwneuthur lluniau dychweliad, ac in twyllo'r nail â hwn, ac arall a'r llall, ac y mae ei gelfydded ef mor gywrain in y dirgelwch yma, ac y bid iddo pedfai bossibl dwyllo 'r Etholedigion. Am hynny er mwyn didwyllo y rhai a dybiant eu bod wedi eu dychwelyd, er na bont felly, ac er diddanu 'r Sawl a ofnant nad ydynt wedi dychwelyd, er eu bod felly, dangosaf i chwi nature dychweliad, beth nid yw, a pheth ydyw.