A26692:72
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Nid yw in unic gydffurfiad oddiallan i rcolau duwioldeb; ysoweth y mae'n rhy amlwg fod gan bobl ffurf. duwioldeb heb y grim: 2 Tim. 3. 5. Gall rhai weddio'n her, Math. 23. 14. Ac ymprydio'n fynych, Luc. 18. 12. A gwrando 'n hyfryd, Marc 6. 20. A bod in draulgar ar wasanaeth Duw, Isaiah 1. 11. Ac etto'n ddieithraid ir ailanedigaeth. Rhaid bod ganddynt ychwaneg yw ddywedyd drostynt eu hunain na'i bod hwy in cadw'r Eglwys, ac in rhoi elusen, ac in darllen gweddi, iw profi eu hunain in wir ddychweledig. Gall rhagrithiwr wneuthur pob gwasanaeth oddiallan, gan rannu ei dda ir tlodion, a dioddef erlid, 1 Cor. 13. 3.
4. Nid yw yn unic gydffurfiad oddiallan i rcolau duwioldeb; ysoweth y mae'n rhy amlwg fod gan bobl ffurf. duwioldeb heb y grym: 2 Tim. 3. 5. Gall rhai weddio'n hir, Math. 23. 14. Ac ymprydio'n fynych, Luc. 18. 12. A gwrando 'n hyfryd, Marc 6. 20. A bod yn draulgar ar wasanaeth Duw, Esay 1. 11. Ac etto'n ddieithraid ir ailanedigaeth. Rhaid bod ganddynt ychwaneg yw ddywedyd drostynt eu hunain na'i bod hwy yn cadw'r Eglwys, ac yn rhoi elusen, ac yn darllen gweddi, iw profi eu hunain yn wir ddychweledig. Gall rhagrithiwr wneuthur pob gwasanaeth oddiallan, gan rannu ei dda ir tlodion, a dioddef erlid, 1 Cor. 13. 3.
5. Nid attaliad Llygredigaeth mono. Gall dugiad i fynu, ofn cyfreithiau dynol, a thrymder custuddiau gadw llygredigaeth i mewn; fell y digwyddodd i Jehoash, yr hwn a hyfforddodd wasanaeth Duw tra fu ei ewythr Jehoiadah in fyw, gan ofalu am adgyweirio tŷ Dduw, 2 Brenh. 12. 2, 7. And dugiad da y fynu a barodd iddo hynny, tra yr oedd efe dan olugiad a chyngor Jehoiadah; ac wedi marw ei Athro daionus, trôdd at eulyn-addoliaeth, ac amlygodd nad oedd efe o'r blaen and megis blaidd wedi ei rwymo.