A26692:79
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Chapter 2: PEN. II. In dangos beth yw Dychweliad.Chapter 2: PEN. II. Yn dangos beth yw Dychweliad.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Dychweliad ynteu ar ychydig eiriau yw cwbl newidiad y gallon, a'r fuchedd. Mi ai darluniaf ef in ei nature ai achosion.
Dychweliad ynteu ar ychydig eiriau yw cwbl newidiad y galon, a'r fuchedd. Mi ai darluniaf ef yn ei natur ai achosion.
1. Yspryd Duw sydd in ei weithio, am hynny ei gelwir sancteiddiad yr yspryd, 2 Thess. 2. 13. Ac adnewyddiad yr Yspryd Glân, Tit. 3. 5. A hynny ynghyd â'r Tâd a'r Mâb; o herwydd disc yr Apostol ni i fendithio Tâd ein Harglwydd Jesus Grist, o herwydd iddo ein hadgenedlu ni i obaith bywiol, 1 Pet. 1. 3. Ac y mae Christ in rhoddi Edifeirwch i Israel, Act. 5. 31. A gelwir ef y Tâd trag wyddol, Esa. 9. 6. A ninnau ei hâd ef, a'r plant a rods Duw iddo ef, Heb. 2. 13. Isaiah 53. 10. O anedigaeth fendigedig! Saith o ddinasoedd a ymhonnent o anedigaeth Homer: Y mae 'r Drindod in Dâd ir creadur newydd, yr hwn a enir o'r Yspryd, Joan 3. 8.
1. Yspryd Duw sydd yn ei weithio, am hynny ei gelwir sancteiddiad yr yspryd, 2 Thess. 2. 13. Ac adnewyddiad yr Yspryd Glân, Tit. 3. 5. A hynny ynghyd â'r Tâd a'r Mâb; o herwydd dysc yr Apostol ni i fendithio Tâd ein Harglwydd Jesu Grist, o herwydd iddo ein hadgenedlu ni i obaith bywiol, 1 Pet. 1. 3. Ac y mae Christ yn rhoddi Edifeirwch i Israel,