A26692:93
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Chapter 2: PEN. II. In dangos beth yw Dychweliad.Chapter 2: PEN. II. Yn dangos beth yw Dychweliad.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr ydwyti in dechreu in chwithig os ceisi welled dy Etholedigaeth in gyntaf peth: bid siccr o'th alwad, ac yna nid rhaid itti ammeu dy Etholiad: Ac onid yw dy alwad hynod iti in barod, yr awr hon ymrodda i ddychwelyd at Dduw in hollawl. Y mae arfaeth Duw in ddirgel i ni, and y mae ei addewidion ef in eglur. Y mae'r anufydd in argumennu in ddibrus wrth ddywedyd, os etholwyd fi achubir fibeth bynnag a wnelwyf, ac onide collir fire gwneuthur fyngoreu. O bechadur gwrthnyssig a finny di ddechreu, lle y dyliti ddiweddu, onid yw'r gair ger dy fron di? Beth a ddywed hwnnw? Edifarhewch a dychwelwch fell y deleer eich pechodau, Act. 3. 19. Os ydych in marweiddio gweithredoedd y corph trwy'r yspryd, byw fyddwch, Rhuf. 8. 13. Crêd a bid gadwedig, Act 16. 31. Beth all fod amlyccach? Na segura dan ymddadlu yngylch dy etholedigaeth, and ymosod i edifarhau ac i gredu: Gwaedda ar Dduw am râs. Pethau datcuddiedig a berthyn iti, bid ddiwyd in eu cylch. Barn gyfiawn yw ir rhai hynny ymdagu ag escyrn, y rhai ni fynnant gymeryd ymborth jachus y gair. Nid eli wybod amcanion Duw, and di eli wybod ei addewidion ef, ac hyderu arnynt, canys disiommedig ydynt. Gelli fod in ddiogel, os edifarhei a chredu cadwedig fyddi, onidê colledig fyddi; Dyma ford wastad iw cherdded, pam ydringi di'r creigiau?
Yr ydwyti yn dechreu yn chwithig os ceisi weled dy Etholedigaeth yn gyntaf peth: bydd siccr o'th alwad, ac yna nid rhaid itti ammeu dy Etholiad: Ac onid yw dy alwad hynod iti yn barod, yr awr hon ymrodda i ddychwelyd at Dduw yn hollawl. Y mae arfaeth Duw yn ddirgel i ni, ond y mae ei addewidion ef yn eglur. Y mae'r anufydd yn argumennu yn ddibrus wrth ddywedyd, os etholwyd fi achubir fi beth bynnag a wnelwyf, ac onide collir fi er gwneuthur fyngoreu. O bechadur gwrthnyssig a fynni di ddechreu, lle y dyliti ddiweddu, onid yw'r gair ger dy fron di? Beth a ddywed hwnnw? Edifarhewch a dychwelwch fel y deleer eich pechodau, Act. 3. 19. Os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corph trwy'r yspryd, byw fyddwch, Rhuf. 8. 13. Crêd a bydd gadwedig, Act 16. 31. Beth all fod amlyccach? Na segura dan ymddadlu yngylch dy etholedigaeth, ond ymosod i edifarhau ac i gredu: Gwaedda ar Dduw am râs. Pethau datcuddiedig a berthyn iti, bydd ddiwyd yn eu cylch. Barn gyfiawn yw ir rhai hynny ymdagu ag escyrn, y rhai ni fynnant gymeryd ymborth iachus y gair. Nid elli wybod amcanion Duw, ond di elli wybod ei addewidion ef, ac hyderu arnynt, canys disiommedig ydynt. Gelli fod yn ddiogel, os edifarhei a chredu cadwedig fyddi, onidê colledig fyddi; Dyma ffordd wastad iw cherdded, pam ydringi di'r creigiau?