A30210:112
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In Ail, Rhaid i ti ffreiddio ei Ddiwŷdrwŷdd ef i wneuthur y Gross in Ddiystŷr in dy olwg di; Canŷs di a ddylit farnu fôd Dirmŷg er mwŷn Crîst in fwŷ golud nâ thryssorau 'r Aipht. (Hebreaid 11.25, 26.) Heblaw hŷn, Brenin y Gogoniant a fynegodd i ti a caiff yr hwn sŷ'n ewŷllysio cadw ei einios ei cholli hi; Ac mêdd efe, os daw nêb attafi, ac ni chasâo ei Dâd, a'i Fam, a i Wraig, a'i Blant, a'i Frodŷr, a'i Chwiorŷdd, je a'i Einioes ei hun hefŷd, ni all ef fôd in Ddyscŷbl i mi. (Marc 8.34, 35. Luc 14.26.) Ac am hynnŷ meddafi, rhaid i ti ddiflasu ar yr Athrawiaeth honno a dderbyniaist oddiwrth Bydol Ddoethŷn, yr hwn a'th berswaediodd a bid y peth hynnŷ in Farwolaeth i ti, heb yr hŷn (mêdd y Gwirionedd ei hun) nid eli di gael bywŷd tragywŷddol.
Yn Ail, Rhaid i ti ffreiddio ei Ddiwŷdrwŷdd ef i wneuthur y Groes yn Ddiystŷr yn dy olwg di; Canŷs di a ddylit farnu fôd Dirmŷg er mwŷn Crîst yn fwŷ golud nâ thryssorau 'r Aipht. (Hebreaid 11.25, 26.) Heblaw hŷn, Brenin y Gogoniant a fynegodd i ti a caiff yr hwn sŷ'n ewŷllysio cadw ei einios ei cholli hi; Ac mêdd efe, os daw nêb attafi, ac ni chasâo ei Dâd, a'i Fam, a i Wraig, a'i Blant, a'i Frodŷr, a'i Chwiorŷdd, ie a'i Einioes ei hun hefŷd, ni all ef fôd yn Ddyscŷbl i mi. (Marc 8.34, 35. Luc 14.26.) Ac am hynnŷ meddafi, rhaid i ti ddiflasu ar yr Athrawiaeth honno a dderbyniaist oddiwrth Bydol Ddoethŷn, yr hwn a'th berswaediodd a bydde y peth hynnŷ yn Farwolaeth i ti, heb yr hŷn (mêdd y Gwirionedd ei hun) nid elli di gael bywŷd tragywŷddol.
In Drydŷdd, Rhaid i ti gashau ei waith ef in gosod dy draed ti ar y ford sŷdd in arwain i weinidogaeth Angeu. Ac ynghŷlch hynnŷ, Rhaid i ti ystyried at bwŷ yr anfonodd ef dydi, ac hefŷd mor anabi oedd y Gŵr hwnnw i'th waredu di oddiwrth dy Fauch.
Yn Drydŷdd, Rhaid i ti gashau ei waith ef yn gosod dy draed ti ar y ffordd sŷdd yn arwain i weinidogaeth Angeu. Ac ynghŷlch hynnŷ, Rhaid i ti ystyried at bwŷ yr anfonodd ef dydi, ac hefŷd mor anabi oedd y Gŵr hwnnw i'th waredu di oddiwrth dy Fauch.