A30210:154
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ina efe a ymaelodd in ei law ef, ac a'i harweiniodd ef, i ystafell helaeth jawn, yr hon oedd in lawn o lŵch, am nad yscŷbesid hi erioed; A chwedi edrŷch arni ennŷd fechan, fe alwodd y Deonglwr am ŵr iw hysgŷbo hi: A phan ddechrevodd ef ysgŷbo, fe gododd cymmaint o lŵch o amgŷlch, ac a bu Cristion agos a thagu gantho. Ina ebŷr Deonglwr wrth langces oedd in sefŷll gar law, Dŵg ymma ddŵr, a thaenella ef rhŷd yr ystafell; A phan wnaeth hi hynnŷ, fe ysgŷbwŷd ac a lanhawŷd y llê in hyfrŷd.
Yna efe a ymaelodd yn ei law ef, ac a'i harweiniodd ef, i ystafell helaeth iawn, yr hon oedd yn llawn o lŵch, am nad yscŷbesid hi erioed; A chwedi edrŷch arni ennŷd fechan, fe alwodd y Deonglwr am ŵr iw hysgŷbo hi: A phan ddechreuodd ef ysgŷbo, fe gododd cymmaint o lŵch o amgŷlch, ac a bu Cristion agos a thagu gantho. Yna ebŷr Deonglwr wrth langces oedd yn sefŷll gar llaw, Dŵg ymma ddŵr, a thaenella ef rhŷd yr ystafell; A phan wnaeth hi hynnŷ, fe ysgŷbwŷd ac a lanhawŷd y llê yn hyfrŷd.
CRISTION. Bêth ŷw meddwl hŷn ebŷr Cristion?
Deonglwr. A attebodd, yr ystafell hon ŷw calon dŷn, heb ei glâahau erioed gan râs hyfrŷd yr Efengŷl; Y llŵch ŷw ei bechod gwreiddiol ef, a'l lygredigaethau oddi-fewn, y rhain a halogasant yr hôll Ddŷn: A'r hwn a ddechrevodd ysgŷbo ar y cyntaf ŷw 'r Gyfraith: And yr hon a ddygodd ddŵr, ac a'i Taenellodd ef rhŷd yr Ystafell ŷw 'r Efengŷl: Yr awrhon llê gwelaist y llŵch in hedeg fellu o bôb-parth in y mannau ac a dechrevodd y cyntaf ysgŷbo (fell nad allay ef lanhau yr ystafell, and ei fôd ef ymron dy dagu di) Sŷ'n dangos i ti, fôd y gyfraith, trwŷ ei gweithrediad, in llê puro'r Gallon (oddiwrth bechod) in rhoddi achlysur neu achos iddi i ymadfŷwio, i gasglu grŷm, ac i gynyddu in yr Enaid, je, y prŷd hynnŷ pan fo hi in datguddio ac in gwâhardd pechod, canŷs nid ydŷw hi in rhoddi gallu iw ostwng ef. (Rhufeiniaid 7.8, 12. &c. 1 Corinthiaid 15.56. Rhufeiniaid 5.20.)