A30210:162
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Rwi'n Deal yr awron (Ebŷr Cristion) may Ammynedd sŷdd ddoethaf; In Gyntaf o herwŷdd ei fôd ef in fodlon i aros am y pethau goreu; In Ail oblegit a câiff ef fwŷnhau ei gyfran gogoneddus pan na bô dim gan y llall and brattiau.
CRISTION. Rwi'n Deall yr awron (Ebŷr Cristion) mai Ammynedd sŷdd ddoethaf; Yn Gyntaf o herwŷdd ei fôd ef yn fodlon i aros am y pethau goreu; Yn Ail oblegit a câiff ef fwŷnhau ei gyfran gogoneddus pan na bô dim gan y llall ond brattiau.
Deonglwr. Nage, chwi a ellwch anghwanegu rheswm arall, sêf o herwŷdd bôd Gogoniant y Bŷd a ddaŵ in parhau dross fŷth; And i mae pethau 'r Bŷd hwn in mined ymaith 'in ddisymmwth. (Diharebion 23.5.) Ac am hynnŷ nid oedd i Amhwŷllog gymmaint o achos i chwerthin am ben Ammynedd, ag oedd i Ammynedd i chwerthin am ben Amhwŷllog, er i Amhwŷllog gael ei bethau dâ in gyntaf, ac na chafodd Ammynedd monŷnt and in ddiweddaf; Canŷs rhaid i Amhwŷllog roddi llê i Ddiweddaf, oblegid rhaid i Ddiweddaf gael yr amser a ddaŵ: And nid ŷw diweddaf in rhoddi ⟨p. 32⟩i ddim arall, canŷs nid oes peth arall i ddyfod in ei lê ef; Rhaid gan hynnŷ, ir hwn a gaiff ei ran in gyntaf, gael amser hefŷd iw dreulio; And rhaid ir hwn a gaiff ei gyfran in ddiweddaf ei chael hi dross fŷth; Ac am hynnŷ a dywedir am Ddeises, di a dderbyniaist dy Wŷnfŷd in dy fywŷd, ac fellu Lazarus ei Adfŷd, Ac yr awron a diddenir ef, ac a poenir ditheu. (Luc 16.25.)
Deonglwr. Nage, chwi a ellwch anghwanegu rheswm arall, sêf o herwŷdd bôd Gogoniant y Bŷd a ddaŵ yn parhau dros fŷth; Ond i mae pethau 'r Bŷd hwn yn myned ymaith 'yn ddisymmwth. (Diharebion 23.5.) Ac am hynnŷ nid oedd i Amhwŷllog gymmaint o achos i chwerthin am ben Ammynedd, ag oedd i Ammynedd i chwerthin am ben Amhwŷllog, er i Amhwŷllog gael ei bethau dâ yn gyntaf, ac na chafodd Ammynedd monŷnt ond yn ddiweddaf; Canŷs rhaid i Amhwŷllog roddi llê i Ddiweddaf, oblegid rhaid i Ddiweddaf gael yr amser a ddaŵ: Ond nid ŷw diweddaf yn rhoddi ⟨p. 32⟩