A30210:200
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Deonglwr. Weal, cadw dithau 'r cwbl fellu in dy gôf, fell a gallont fod megis symbylau in dy ystlysau, i'th bigo di ymlaen in y ford sŷdd raid i ti fined rhŷd-ddi: Ina dechrevodd Cristion wregysu ei lwŷnau ac ymbarodtoi i gychwŷn; Ina ebŷr y Deonglwr, Cristion an wŷl! Y Diddanŷdd a fyddo gyda thy bôb amser, i'th gyfarwŷddo di in y ford sŷ'n arwain ir Ddinas Nefol.
Deonglwr. Wele, cadw dithau 'r cwbl fellu yn dy gôf, fel a gallont fod megis symbylau yn dy ystlysau, i'th bigo di ymlaen yn y ffordd sŷdd raid i ti fyned rhŷd-ddi: Yna dechreuodd Cristion wregysu ei lwŷnau ac ymbarodtoi i gychwŷn; Yna ebŷr y Deonglwr, Cristion an wŷl! Y Diddanŷdd a fyddo gyda thi bôb amser, i'th gyfarwŷddo di yn y ffordd sŷ'n arwain ir Ddinas Nefol.
Fellu Cristion a aeth ymlaen rhŷd ei ford dan ganu.
Fellu Cristion a aeth ymlaen rhŷd ei ffordd dan ganu.
Ymma gwelais bethau buddiol, Pethau ymheuthŷn, a rhyfeddol, Pethau hyfrŷd, ac ofnadwŷ, Pethau i'm gwneuthur in safadwŷ. Glynu a wnelwŷf bôb mynudŷn, In y pethau a ymaelais ynthŷn: Rhaid im gofio, ac ystyried, O herwŷdd pam a ces eu gweled. A bydded i mi bŷth (dan amod Tra bo ynof Rŷm a chwŷthod) Roddi Diolch i ti beunŷdd, Am dy gariad, fy nehonglŷdd.
Ymma gwelais bethau buddiol, Pethau ymheuthŷn, a rhyfeddol, Pethau hyfrŷd, ac ofnadwŷ, Pethau i'm gwneuthur yn safadwŷ. Glynu a wnelwŷf bôb mynudŷn, Yn y pethau a ymaelais ynthŷn: Rhaid im gofio, ac ystyried, O herwŷdd pam a ces eu gweled. A bydded i mi bŷth (dan amod Tra bo ynof Rŷm a chwŷthod) Roddi Diolch i ti beunŷdd, Am dy gariad, fy nehonglŷdd.