A30210:223
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y ddau eraill hefŷd a ddaethant hŷd troed y Brŷn; And pan welsant fôd y Brŷn in serth, a bôd yno ddwŷ ford arall i fined; A chan dybied hefŷd a cyfarfyddai y ddwŷ ford hynnŷ drachefn, a'r ford yr aethai Cristion i fynu rhŷd▪ddi (ar yr ystlus arall ir Brŷn) hwŷ a ymroesant am hynnŷ i fynend rhŷd y ffŷrdd ymma (Enw un or ffŷrdd oedd Perŷgl, ac Enw'r llall oedd Distrŷw) Fellu y nail ŵr a gymmerodd y ford a elwir Perŷgl, yr hon a'i harweiniodd ef i Goedwig fawr; A'r llall a aeth in union rhŷd y ford oedd in arwain i Ddistrŷw, yr hon a'i harweiniodd ef i fan eheng in lawn o fynyddoedd tywŷll, llê a tramgwŷddodd ac a syrthiodd ef, ac ni chyfododd ef mwŷ.
Y ddau eraill hefŷd a ddaethant hŷd troed y Brŷn; Ond pan welsant fôd y Brŷn yn serth, a bôd yno ddwŷ ffordd arall i fyned; A chan dybied hefŷd a cyfarfyddai y ddwŷ ffordd hynnŷ drachefn, a'r ffordd yr aethai Cristion i fynu rhŷd▪ddi (ar yr ystlus arall ir Brŷn) hwŷ a ymroesant am hynnŷ i fynend rhŷd y ffŷrdd ymma (Enw un or ffŷrdd oedd Perŷgl, ac Enw'r llall oedd Distrŷw) Fellu y naill ŵr a gymmerodd y ffordd a elwir Perŷgl, yr hon a'i harweiniodd ef i Goedwig fawr; A'r llall a aeth yn union rhŷd y ffordd oedd yn arwain i Ddistrŷw, yr hon a'i harweiniodd ef i fann eheng yn llawn o fynyddoedd tywŷll, llê a tramgwŷddodd ac a syrthiodd ef, ac ni chyfododd ef mwŷ.
Ina mi a edrychais ar ôl Cristion, iw welled ef in mined i fynu i ben y Brŷn; Ac mi a'i gwelwn ef (gwedi rhedeg ar y cyntaf) in cerdded yr awron, ac o'r dlwedd in crippian i fynu ar ei draed a'i ddwŷlo, oblegid fôd y llê in serth ac in llithrig, Ac ynghŷlch hanner y ford i ben y Brŷn, yr oedd eisteddle hyfrŷd o good plan, wedi ei osod gan Arglwŷdd y Brŷn, i orffwŷso ymdeithwŷr deffygiol; Ac am hynnŷ fe aeth Cristion yno, ac a eisteddodd i lawr i gymmerŷd gorphwŷsfa in y llê hwnnw; Ina efe a gymmerodd ei Blŷg-lyfr allan o'i fynwes ac a ddarllenodd yntho, ac a gafodd ddiddanwch oddiwrtho; Efe a ddechrevodd hefŷd yr awron ail-edrŷch ar y siacced a roddasid iddo ef, pan oedd ef in sefŷll wrth y Gross; A chwedi iddo gael bodlonrhwŷdd in y pethau hŷn tros ennŷd; O'r diwedd fe a syrthiodd i heppian, ac ar ôl hynnŷ