A30210:248
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Ydŷwf, and nid ŷw hynnŷ and in anfynŷch jawn; And oriau euraid ŷw y rheini i mi, in y rhai a digwŷdd i mi gael gorescynniad ar fy llygredigaethau.
CRISTION. Ydŷwf, ond nid ŷw hynnŷ ond yn anfynŷch iawn; Ond oriau euraid ŷw y rheini i mi, yn y rhai a digwŷdd i mi gael gorescynniad ar fy llygredigaethau.
Doethineb. A ellwch chwi gofio trwŷ ba foddion, a mae y llygredigaethau blinderus hŷn in cael eu darostwng ynoch, fell pedfaent wedi eu gorchfu.
Doethineb. A ellwch chwi gofio trwŷ ba foddion, a mae y llygredigaethau blinderus hŷn yn cael eu darostwng ynoch, fel pedfaent wedi eu gorchfu.
CRISTION. Gallaf, in gyntaf pan feddyliwŷf am yr hŷn a welais i wrth y Gross; In ail pan edrychwŷf ar fy fiacced fraith; In drydŷdd pan ddarllenwŷf in y plŷg-lyfr yr wŷf in ei ddwŷn in fy mynwes; Ac in bedwerŷdd pan fyddo fy meddyliau ynghŷlch y llê yr wŷf in mined tuag atto in ymwresogi, fe rŷdd hynný ergŷd marwol i'm llygredigaethau
CRISTION. Gallaf, yn gyntaf pan feddyliwŷf am yr hŷn a welais i wrth y Groes; Yn ail pan edrychwŷf ar fy fiacced fraith; Yn drydŷdd pan ddarllenwŷf yn y plŷg-lyfr yr wŷf yn ei ddwŷn yn fy mynwes; Ac yn bedwerŷdd pan fyddo fy meddyliau ynghŷlch y llê yr wŷf yn myned tuag atto yn ymwresogi, fe rŷdd hynný ergŷd marwol i'm llygredigaethau