A30210:333
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac fell yr oedd Cristion in mined ymlaen, fe a ddaeth i allt fechan; Yr hon a godasid ir diben hwn, fell a galleu Bererinod ganffod o'u blaen; Ag wedi dyfod i fynu yno, ac edrŷch o'i flaen, fe a ganfu Ffyddlon ar ei daith; Ina Cristion a waeddodd a llêf uchel, Hai, Hai, Hai-how, arhoswch, ⟨p. 77⟩a mi a fyddaf gydymaith i chwi; Ar hynnŷ ffyddlon a edrychodd o'i ôl, a gwaeddodd Cristion arno ef drachefn, gan ddywedŷd Arhoswch Arhoswch, hŷd oni ddelwŷf i fynu attoch; And▪ Ffyddlon a attebodd, Na wnaf, yr wŷfi'n rhedeg am fy mywŷd, i mae Dialwr y gwaed in fy nilŷn i; A Christian â gyffrowŷd ychydiġ ar hŷn; A chan ymegnio a'i hôll nerth, fe a oddiweddodd Ffyddlon in fŷan, ac a redodd hefŷd in gŷnt nag ef, fellu yr olaf a fu flaenaf; Ina chwarddodd Cristion in wag•aw, oblegid iddo gael y blaen ar ei Frawd; And heb ofalu 'n ddâ ar ei draed, fe a dripiodd in fŷan ac a syrthiodd, ac nis gallai gyfodi drachefn hŷdoni ddaeth Ffyddlon i fynu iw gynnorthwŷo ef.
Ac fel yr oedd Cristion yn myned ymlaen, fe a ddaeth i allt fechan; Yr hon a godasid ir diben hwn, fel a galleu Bererinod ganffod o'u blaen; Ag wedi dyfod i fynu yno, ac edrŷch o'i flaen, fe a ganfu Ffyddlon ar ei daith; Yna Cristion a waeddodd a llêf uchel, Hai, Hai, Hai-how, arhoswch, ⟨p. 77⟩a mi a fyddaf gydymaith i chwi; Ar hynnŷ ffyddlon a edrychodd o'i ôl, a gwaeddodd Cristion arno ef drachefn, gan ddywedŷd Arhoswch Arhoswch, hŷd oni ddelwŷf i fynu attoch; Ond▪ Ffyddlon a attebodd, Na wnaf, yr wŷfi'n rhedeg am fy mywŷd, i mae Dialwr y gwaed yn fy nilŷn i; A Christion â gyffrowŷd ychydiġ ar hŷn; A chan ymegnio a'i hôll nerth, fe a oddiweddodd Ffyddlon yn fŷan, ac a redodd hefŷd yn gŷnt nag ef, fellu yr olaf a fu flaenaf; Yna chwarddodd Cristion yn wag•aw, oblegid iddo gael y blaen ar ei Frawd; Ond heb ofalu 'n ddâ ar ei draed, fe a dripiodd yn fŷan ac a syrthiodd, ac nis gallai gyfodi drachefn hŷdoni ddaeth Ffyddlon i fynu iw gynnorthwŷo ef.