A30210:40
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Fy nghymydog Medal ebŷr Crlstion, pa fôdd yr ŷch chwi? Mae'n ddâ gennif eich bod chwi wedi'ch perswaedio i fined gyda mi; Pa teimlaseu Cyndŷn yntho ei hun, nerthoedd a dychrŷniadau y pethau sŷdd etto in anweledig megis a teimlais i hwŷnt, ni throesai fe mo'i gefn arnom mor ysgafn.
CRISTION. Fy nghymydog Meddal ebŷr Crlstion, pa fôdd yr ŷch chwi? Mae'n ddâ gennif eich bod chwi wedi'ch perswaedio i fyned gyda mi; Pa teimlaseu Cyndŷn yntho ei hun, nerthoedd a dychrŷniadau y pethau sŷdd etto yn anweledig megis a teimlais i hwŷnt, ni throesai fe mo'i gefn arnom mor ysgafn.
Medal. Fy nghymydog Cristion, gan nad oes ymma nêb onid ninny 'n dau, mynegwch i mi yr awron ymhellach pa rŷw bethau sŷdd iw cael, in y llê yr ydŷm ni in mined tuag atto, a pha fôdd a mwŷnheir hwŷnt.
Meddal. Fy nghymydog Cristion, gan nad oes ymma nêb onid nyni 'n dau, mynegwch i mi yr awron ymhellach pa rŷw bethau sŷdd iw cael, yn y llê yr ydŷm ni yn myned tuag atto, a pha fôdd a mwŷnheir hwŷnt.
CRISTION. Gwell a gallaf eu Deal hwŷ in fy meddwl na'u hadrodd hwŷnt a'm tafod: Etto gan eich bôd in chwennychu eu gwŷbod, mi a ddarllennaf i chwi am danŷnt in fy llyfr.
CRISTION. Gwell a gallaf eu Deall hwŷ yn fy meddwl na'u hadrodd hwŷnt a'm tafod: Etto gan eich bôd yn chwennychu eu gwŷbod, mi a ddarllennaf i chwi am danŷnt yn fy llyfr.