A30210:461
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In Drydŷdd, Y peth mwŷaf rhyfeddol gan y Marsiandwŷr oedd, fôd y Pererinod ymma in llwŷr ddibrisiio eu hôll Farsiandaeth hwŷ; Canŷs ni wnaent hwŷ gymaint ac edrŷch ar y pethau oedd ar werth yno; Ac os gelwid arnŷnt i brynu dim, hwŷ a osodent eu bysedd in eu clustiau, ac a waeddent, Trô heibio fy llygaid rhag edrŷch ar waged; Ac a edrychent i fynu, gan arwŷddo trwŷ hynnŷ, fôd y wâr ar pethau yr oeddŷnt hwŷ in ymofŷn amdanŷnt, iw cael in unic in y Nefoedd (Psalm 119.37. Philippiaid 3.19, 20.)
Yn Drydŷdd, Y peth mwŷaf rhyfeddol gan y Marsiandwŷr oedd, fôd y Pererinod ymma yn llwŷr ddibrisiio eu hôll Farsiandaeth hwŷ; Canŷs ni wnaent hwŷ gymaint ac edrŷch ar y pethau oedd ar werth yno; Ac os gelwid arnŷnt i brynu dim, hwŷ a osodent eu bysedd yn eu clustiau, ac a waeddent, Trô heibio fy llygaid rhag edrŷch ar wagedd; Ac a edrychent i fynu, gan arwŷddo trwŷ hynnŷ, fôd y wâr ar pethau yr oeddŷnt hwŷ yn ymofŷn amdanŷnt, iw cael yn unic yn y Nefoedd (Psalm 119.37. Philippiaid 3.19, 20.)
Digwŷddodd i rŷw watwarwr (wrth ddal sulw ar eu hymddygiad) ofŷn iddŷnt, Pa beth a brynwch chwi? A hwŷthau in Sobor jawn a'u hattebasant ef, ein hewŷllŷs ni ŷw prynu'r Gwirionedd (Diharebion 23.23.) Ac ar hŷn cymerwŷd mwŷ o esgus iw dirmygu hwŷnt: Canŷs rhai yr awron a'u gwatwarent, rhai a'u enllibient, a rhai a annogent eraill iw curo nhwŷ; O'r diwedd, yr oedd yr hôll fair mewn Terfŷsc a chythryfwl, hŷdonid oedd pôb peth allan o drefn; Ina a mynegwŷd y cwbl i Arglwŷdd y fair; Ac yntef a ddaeth i wared in fŷan, ac a archodd i ray o'i gymdeithion ffyddlonaf i holy hwŷnt in sanwl, o achos pa ray yr oedd y fâth gynnwrf in yr hôli fair.
Digwŷddodd i rŷw watwarwr (wrth ddal sulw ar eu hymddygiad) ofŷn iddŷnt, Pa beth a brynwch chwi? A hwŷthau yn Sobor iawn a'u hattebasant ef, ein hewŷllŷs ni ŷw prynu'r Gwirionedd (Diharebion 23.23.) Ac ar hŷn cymerwŷd mwŷ o esgus iw dirmygu hwŷnt: Canŷs rhai yr awron a'u gwatwarent, rhai a'u enllibient, a rhai a annogent eraill iw curo nhwŷ; O'r diwedd, yr oedd yr hôll ffair mewn Terfŷsc a chythryfwl, hŷdonid oedd pôb peth allan o drefn; Yna a mynegwŷd y cwbl i Arglwŷdd y ffair; Ac yntef a ddaeth i wared yn fŷan, ac a archodd i rai o'i gymdeithion ffyddlonaf i holi hwŷnt yn sanwl, o achos pa rai yr oedd y fâth gynnwrf yn yr hôli ffair.