A30210:528
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Wedi i Chwant yr Arian. roddi'r atteb hwn i Gwestiwn Meistir Neilltuol fwriad, hwŷ a ganmolasant ei Atteb ef in ddirfawr, ac a farnasant fôd y cwbl a lefarodd ef in dra buddiol a jachus; Ac oblegid eu bôd nhwŷ'n tybied, nad oedd nêb a alleu ddywddŷd dim in wrthwŷnebus ir atteb ymma; Ac o herwŷdd fôd Cristion a Gobeithiol o fewn clŷw, hwŷ a gyttunasant in un frŷd, cŷn gynted ag a byddai iddŷnt eu goddiwes, i osod y cwestiwn hwn iddŷnt; In enwedig oblegid iddŷnt hwŷ or blaen wrthwŷnebu Meistir Neilltuol-fwriad in y matterion ymma; Fellu hwŷ a alwasant ar y Pererinod, a hwŷthau a safasant in yr unman, hŷdoni ddaeth y lleill hŷd attŷnt; And wrth ddyfod tuag attŷnt, hwŷ a gyttunasant may nid Meistir Neilltuol-fwriad, and yr hên ŵr Meistir Awudd y Bŷd, a gay ofŷn y cwestiwn iddŷnt, o herwŷdd eu bôd nhwŷ in tybied a byddent dynnerach wrtho ef, ac nas byddent mor danbaid ac a buant ychydig or blaen, wrth ymadel a Neilltuol-fwriad.
Wedi i Chwant yr Arian. roddi'r atteb hwn i Gwestiwn Meistir Neilltuol fwriad, hwŷ a ganmolasant ei Atteb ef yn ddirfawr, ac a farnasant fôd y cwbl a lefarodd ef yn dra buddiol a iachus; Ac oblegid eu bôd nhwŷ'n tybied, nad oedd nêb a alleu ddywddŷd dim yn wrthwŷnebus ir atteb ymma; Ac o herwŷdd fôd Cristion a Gobeithiol o fewn clŷw, hwŷ a gyttunasant yn un frŷd, cŷn gynted ag a byddai iddŷnt eu goddiwes, i osod y cwestiwn hwn iddŷnt; Yn enwedig oblegid iddŷnt hwŷ or blaen wrthwŷnebu Meistir Neilltuol-fwriad yn y matterion ymma; Fellu hwŷ a alwasant ar y Pererinod, a hwŷthau a safasant yn yr un man, hŷdoni ddaeth y lleill hŷd attŷnt; Ond wrth ddyfod tuag attŷnt, hwŷ a gyttunasant mai nid Meistir Neilltuol-fwriad, ond yr hên ŵr Meistir Awudd y Bŷd, a gai ofŷn y cwestiwn iddŷnt, o herwŷdd eu bôd nhwŷ yn tybied a byddent dynnerach wrtho ef, ac nas byddent mor danbaid ac a buant ychydig or blaen, wrth ymadel a Neilltuol-fwriad.
Fellu hwŷ a ddaethant hŷd attŷnt; Ac wedi iddŷnt gyfarch gwell iw gilŷdd, Awudd y Bŷd a osododd y cwestiwn ger bron Cristion a'i gydymaith, gan ddymuno arnŷnt ei atteb os gallent.