A30210:584
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yrawron wedi'r nôs ddyfod, drachefn, a mŷned o'r Cawr a'i wraig iw gwelŷ, hi a ofynnodd iddo beth a ddaethai o'r Carcharorion? Ac a wnaethent hwŷ in ôl ei gyngor ef ai peidio? Yntef a'i hattebodd hi, may dihirwŷr pengaled oeddŷnt; A gwell oedd ganthŷnt ddioddef pôb mâth o gledi, na'u difetha eu hunain; Ina ebŷr hi, cymmer hwŷnt y foru i gyntedd y Castle, a dangos iddŷnt Escŷrn a phenglogau y rhai a ddifethaslti eusus; A gwna iddŷnt goelio a bŷdd i ti cŷn pen yr wŷthnos eu rhwŷgo nhwŷthau in ddarnau, fell a rhwŷgaist eu cyfeillion o'u blaen hwŷnt.
Yrawron wedi'r nôs ddyfod, drachefn, a mŷned o'r Cawr a'i wraig iw gwelŷ, hi a ofynnodd iddo beth a ddaethai o'r Carcharorion? Ac a wnaethent hwŷ yn ôl ei gyngor ef ai peidio? Yntef a'i hattebodd hi, mai dihirwŷr pengaled oeddŷnt; A gwell oedd ganthŷnt ddioddef pôb mâth o gledi, na'u difetha eu hunain; Yna ebŷr hi, cymmer hwŷnt y foru i gyntedd y Castell, a dangos iddŷnt Escŷrn a phenglogau y rhai a ddifethaslti eusus; A gwna iddŷnt goelio a bŷdd i ti cŷn pen yr wŷthnos eu rhwŷgo nhwŷthau yn ddarnau, fel a rhwŷgaist eu cyfeillion o'u blaen hwŷnt.
Fellu pan ddaeth y boreu, y Cawr a aeth attŷnt drachefn, ac a'u cymmerth i gyntedd y Castle; Ac a ddangosodd iddŷnt yr Escŷrn a'r pengiogau, megis a gorchymŷnnasai ei wraig iddo: ⟨p. 143⟩Yr oedd y rhain ebŷr ef in Bererinod unwaith fell chwithau; Ac fe ddarfu iddŷnt drespasu ar fy nhîr i megis a gwnaethoch chwithau; A phan welais i fôd in ddâ, mi a'i dryiliais hwŷ in chwilfriw; A chŷn pen deng niwrnod, mi a'ch drylliaf chwithau in yr un môdd: Ewch i wared i'ch lloches drachefn, a chyda hynnŷ fe a'u curodd hwŷ o hŷd, nes iddŷnt ddyfod iw gwâl: Ac yno buant in gorwedd yr hôll ddŷdd Sadwrn mewn cyflwr gofudus, megis a buant o'r blaen; Yrawron gwedi iddi nosy, a mined o meistres Anhyder a'r Cawr ei Gŵr iw gwelŷ, hwŷ a ddechrevasant ymddiddan drachefn a'i gilŷdd, ynghŷlch y Carcharorion; A rhyfeddu in fawr a wnaeth yr hên Gawr ei fôd ef in methu, in gystal trwŷ ei ddyrnodiau a thrwŷ ei gynghorion eu dwŷn hwŷ i ddiwedd drŵg: Ac ar hynnŷ ei wraig a ddywedodd wrtho; Rwi'n ofni ebŷr hi eu bôd nhwŷ'n gobeithio a daw rhŷw ray iw gwaredu hwŷnt; neu mae ganthŷnt rŷw offerŷn i agorŷd y clo ag ef, trwŷ ba foddion y maent in gobeithio diangc; A wŷti'n dywedŷd fellu fy Anwŷlŷd ebŷr y Cawr? Myfi a ddyfal c hwillaf eu poccedau a'u dillad hwŷnt y boreu foru, i edrŷch oes ganthŷnt y fâth bethau.