A30210:613
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pan oeddent ar ymadel, un o'r Bugeiliaid a roddodd iddŷnt yscrifen o yspysrwŷdd ynghŷlch eu ford; A'r llall a archodd iddŷnt ochelŷd y dŷn gwenheuthus: A'r trydŷdd a archodd iddŷnt ochelŷd rhag cyscu ar y Tîr a felldithwŷd: A'r pedwaredd a ddywedodd wrthŷnt, Duw a fo'n rhwŷdd i chwi.
Pan oeddent ar ymadel, un o'r Bugeiliaid a roddodd iddŷnt yscrifen o yspysrwŷdd ynghŷlch eu ffordd; A'r llall a archodd iddŷnt ochelŷd y dŷn gwenheuthus: A'r trydŷdd a archodd iddŷnt ochelŷd rhag cyscu ar y Tîr a felldithwŷd: A'r pedwaredd a ddywedodd wrthŷnt, Duw a fo'n rhwŷdd i chwi.
Ina mi a welwn y ddau Bererin in mined i wared o'r mynyddoedd, rhŷd y ford-fawr tua'r Ddinas Nefol; Yrawron ychydig islaw'r mynyddoedd ymma, ar y law asswŷ, yr oedd Gwlâd Cellwair in sefŷll; Ac o'r wlâd hon yr oedd hwŷlfa gam fechan, in dyfod i'r ford yr oedd y Pererinod ynthi: Ac ymma a cyfarfuant a llangc fionc a ffraeth, yr hwn oedd in teithio o'r wlâd honno, a'i Enw ef oedd Anwŷbodaeth; Fellu Cristion a ofynnodd iddo, o bale yr oedd ef in dyfod? Ac i bale yr oedd ef in mined?
Yna mi a welwn y ddau Bererin yn myned i wared o'r mynyddoedd, rhŷd y ffordd-fawr tua'r Ddinas Nefol; Yrawron ychydig islaw'r mynyddoedd ymma, ar y llaw asswŷ, yr oedd Gwlâd Cellwair yn sefŷll; Ac o'r wlâd hon yr oedd hwŷlfa gam fechan, yn dyfod i'r ffordd yr oedd y Pererinod ynthi: Ac ymma a cyfarfuant a llangc fionc a ffraeth, yr hwn oedd yn teithio o'r wlâd honno, a'i Enw ef oedd Anwŷbodaeth; Fellu Cristion a ofynnodd iddo, o ba le yr oedd ef yn dyfod? Ac i ba le yr oedd ef yn myned?
Anwŷbodaeth. Sir fe'm ganwŷd i in y wlâd accw, ychydig ar y law asfwŷ; Ac yr wŷfi'n mined tua'r Ddinas Nefol.
Anwŷbodaeth. Syr fe'm ganwŷd i yn y wlâd accw, ychydig ar y llaw asfwŷ; Ac yr wŷfi'n myned tua'r Ddinas Nefol.