A30210:63
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gwedi hynnŷ mi nessais at yr hwn a'i tynnasai ef o'r Gors, ac a ofynnais iddo, Sir, gan fôd y ford in ledio o Ddinas Distrŷw ir Porth accw trwŷ 'r llê ymma, pa ham na wellawŷd y man hwn, fell a gallai ymdeithwŷr tylodion siwrneio tuag yno in ddiofalach? Yntef a'm hattebodd, y mae'r Gors front hon fellu nes a gallir ei gwellhau hi: Canŷs ir Gwaelod hwn, y mae'r hôll fudreddi fŷdd in canlŷn evogrwŷdd am bechod, in rhedeg i wared in Wastadol; Ac am hynnŷ gelwir hi y Gors o Anobaith: Oblegit, er cynted ac y deffroir pechadur i welled ei gyflwr colledig, i mae lawyer o Ddychrŷniadau ac Amhevon, a meddyliau anghyffarus in cyfodi in fynŷch in ei Enaid ef; A'r rhain ôll sŷ'n ymgasglu ynghŷd, ac in ymsefydlu in y man hwn: A dyma i chwi'r rheswm, pa ham y mae'r Llê ymma cynddrwg.
Gwedi hynnŷ mi nessais at yr hwn a'i tynnasai ef o'r Gors, ac a ofynnais iddo, Syr, gan fôd y ffordd yn ledio o Ddinas Distrŷw ir Porth accw trwŷ 'r llê ymma, pa ham na wellawŷd y man hwn, fel a gallai ymdeithwŷr tylodion siwrneio tuag yno yn ddiofalach? Yntef a'm hattebodd, y mae'r Gors front hon fellu nes a gallir ei gwellhau hi: Canŷs ir Gwaelod hwn, y mae'r hôll fudreddi fŷdd yn canlŷn euogrwŷdd am bechod, yn rhedeg i wared yn Wastadol; Ac am hynnŷ gelwir hi y Gors o Anobaith: Oblegit, er cynted ac y deffroir pechadur i weled ei gyflwr colledig, i mae llawer o Ddychrŷniadau ac Amheuon, a meddyliau anghyffarus yn cyfodi yn fynŷch yn ei Enaid ef; A'r rhain ôll sŷ'n ymgasglu ynghŷd, ac yn ymsefydlu yn y man hwn: A dyma i chwi'r rheswm, pa ham y mae'r Llê ymma cynddrwg.
Nid ewŷllŷs y Brenin ŷw, fôd y ford hon cynddrwg ac y mae hi, (Esaŷ. 35.3, 4.) Ei Weithwŷr ef hefŷd (trwŷ gyfarwŷddiad y rhai oedd gan ei Fawrhydi ef in Olygwŷr ar y brif-ford) a ⟨p. 11⟩fuant er-is dau-cant-ar-bymtheg o flynyddoedd in gweithio ymma, i edrŷch a ellid gwellhau y clwtt Tîr hwn: Je, ac myfi a wn (ebŷr efe) lyngcu ymma o'r lleiaf, fwŷ o lawyer nag ugain mîl o Fennau, gwedi eu llwŷtho in lawn ag hyfforddiadau jach us, a ddygwŷd ymma o amser i amser, o bôb man in Nheŷrnasoedd y Brenin, i brofi a ellid gwellhau 'r ford hon: A'r rhai a wŷddent beth oedd ei deunŷdd, a ddywedent, mae'r pethau goreu oeddŷnt, a'r a ellid eu cael, i wneuthur y Tîr hwn in sŷch ac in galled. Eithr Cors Anobaith ydwŷ hi fŷth, ac fellu y bŷdd hi er gwneuthur o honŷnt eu goreu iw gwellau hi.