A30210:632
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Mae hynnŷ in ddiammeu; Oni basai in dristwch i ni, pa gwnaethid a ni megis a gwnaethpwŷd ag ef, trwŷ ei yspelio (a'i glwŷfo ef hefŷd) a hynnŷ mewn lle mor ddieithr, ag yr oedd ef yntho? Rhyfeddol ydŷw, na basei ef (druan Gŵr) in marw gan ofud! Myfi a glywais, ei fôd ef in llefain ac in cwŷnfan in alarus, y rhan fwŷaf o'r ford gwedi hynnŷ; Gan achwŷn wrth bawb ar a'i goddiwesasant ef, ac wrth y sawl yr oedd yntef in eu goddiwes ar y ford; Gan achwŷn (meddafi) ymha le yr yspelwŷd ef; A pha fôdd; A phwŷ oedd y gwŷr a wnaethant hynnŷ; A pha beth a gollasei; A'r môdd a clwŷfwŷd ef; Ac may prin a diangodd ef in fŷw.
CRISTION. Mae hynnŷ yn ddiammeu; Oni basai yn dristwch i ni, pa gwnaethid a ni megis a gwnaethpwŷd ag ef, trwŷ ei yspelio (a'i glwŷfo ef hefŷd) a hynnŷ mewn lle mor ddieithr, ag yr oedd ef yntho? Rhyfeddol ydŷw, na basei ef (druan Gŵr) yn marw gan ofud! Myfi a glywais, ei fôd ef yn llefain ac yn cwŷnfan yn alarus, y rhan fwŷaf o'r ffordd gwedi hynnŷ; Gan achwŷn wrth bawb ar a'i goddiwesasant ef, ac wrth y sawl yr oedd yntef yn eu goddiwes ar y ffordd; Gan achwŷn (meddafi) ymha le yr yspelwŷd ef; A pha fôdd; A phwŷ oedd y gwŷr a wnaethant hynnŷ; A pha beth a gollasei; A'r môdd a clwŷfwŷd ef; Ac mai prin a diangodd ef yn fŷw.
Gobeithiol. And peth rhyfeddol ydŷw, na pharodd ei angen iddo ef werthu, neu wŷstlo rhai o'i dlysau; fell a gallai ef ei ddianghenu ei hun in ei daith.
Gobeithiol. Ond peth rhyfeddol ydŷw, na pharodd ei angen iddo ef werthu, neu wŷstlo rhai o'i dlysau; fel a gallai ef ei ddianghenu ei hun yn ei daith.
CRISTION. Yr wŷti'n siarad megis un o'r ynfydion: Canŷs am babeth a gwŷstlai ef ei dlysau? Neu i bwŷ a gwerthai ef hwŷnt? Nid oeddid in gwneuthur cyfrif in y Bŷd o'i dlysau ef in yr hôll wlâd honno, in yr hon yr yspeiliwŷd ef ynthi; Ac nid oedd arno ef eisau dim o'r fâth gymmorth ar a oedd gan bobl y wlâd honno, iw wasanaethu fe; Heblaw hynnŷ pa […] ei