A30210:649
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Nyni a ddylem gan hynnŷ gyflawni dau ddyledswŷdd, pan glywom wneuthur y fâth anrheithiadau ar ford fawr y Brenin; In gyntaf Ein harfogi ein hunain pan elom allan ynghŷlch ein gorchwŷlion, a bôd in siwr i gymmerŷd ein Tarian gyda ni; Canẏs dymma'r achos (self am ei fôd heb y Darian hon) paham a method yr hwn a osododd mor gefnog ar y Leviathan ei orchfygu ef; Canŷs mewn gwirionedd os bŷdd honno in eisiau, nis ofna ef monom ni: Am hynnŷ dywedodd yr hwn oedd fedrus, Uwch law pôb dim cymmerwch Darian y ffŷdd, âr hwn a gellwch ddiffoddi hôll Biccellau tanllŷd y fall (Ephesiaid 6.16.)
Nyni a ddylem gan hynnŷ gyflawni dau ddyledswŷdd, pan glywom wneuthur y fâth anrheithiadau ar ffordd fawr y Brenin; Yn gyntaf Ein harfogi ein hunain pan elom allan ynghŷlch ein gorchwŷlion, a bôd yn siwr i gymmerŷd ein Tarian gyda ni; Canẏs dymma'r achos (sef am ei fôd heb y Darian hon) paham a methodd yr hwn a osododd mor gefnog ar y Leviathan ei orchfygu ef; Canŷs mewn gwirionedd os bŷdd honno yn eisiau, nis ofna ef monom ni: Am hynnŷ dywedodd yr hwn oedd fedrus, Uwch law pôb dim cymmerwch Darian y ffŷdd, âr hwn a gellwch ddiffoddi hôll Biccellau tanllŷd y fall (Ephesiaid 6.16.)
Dâ fyddai, i ni hefŷd alw ar y Brenin am help; Jeer iddo ddyfod ei hun gyda ni: Canŷs dyna'r peth a wnaeth i Ddafŷdd orfoleddu pan oedd ef in Nyffrŷn Cyscod Angeu; A gwell oedd gan Fo•••n farw in y fan lle'r oedd ef in sefŷll, na mined ⟨p. 162⟩cymmaint ag un cam heb ei Dduw gydag ef: O fy mrawd! Os efe â gyda ni, nid rhaid i ni ofni Myrdd. iwn o ray a ymosodo in ein herbŷn; And hebddo ef y cynnorthwŷwŷr beilchion a grynant, ac a syrthiant (Psalm 23.4. & 27.1, 2, 3. Exodus 33.15. Job 9.13